Cafodd cynnwys y mesur iaith ei gyhoeddi ddechrau Mawrth
|
Mae'r deuddeg mis diwethaf wedi bod "yn hynod o bwysig o ran gweithredu Iaith Pawb", strategaeth Llywodraeth y Cynulliad i greu Cymru ddwyieithog, yn ôl y Gweinidog dros Dreftadaeth. Ymhlith y llwyddiannau, medd y gweinidog, y mae cyflwyno Mesur yr Iaith Gymraeg, cyhoeddi Strategaeth Addysg Gyfrwng Cymraeg, sicrhau bod gohebiaeth yn y Gymraeg yn cael ei chaniatáu yn swyddogol gan yr Undeb Ewropeaidd, a lansiad gwefan Golwg360. Dywedodd hefyd bod gwaith ar y gweill o fewn Llywodraeth y Cynulliad i adolygu'r Cynllun Iaith Gymraeg, sy'n amlinellu sut y bydd y llywodraeth yn darparu gwasanaethau dwyieithog i bobol Cymru. Ond dywedodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg bod y rhain yn "rhagor o eiriau gwag gan lywodraeth sydd wrthi'n torri ei haddewidion".
 |
Er gwaethaf ei hymrwymiadau, mae pob cyfreithiwr yn datgan yn glir: ni fydd gan y Gymraeg statws swyddogol o dan Fesur Iaith arfaethedig y Llywodraeth
Bethan Williams Cymdeithas Yr Iaith Gymraeg
|
'Statws swyddogol' Wrth gyhoeddi adroddiad ar gynnydd Iaith Pawb a'r Cynllun Iaith Gymraeg, dywedodd Alun Ffred Jones: "Eleni rydym wedi cyflawni amcan Cymru'n Un trwy gyflwyno Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol ar gyfer yr Iaith Gymraeg, a chyflwyno Mesur yr Iaith Gymraeg (Cymru) arfaethedig, sydd nawr yn cael ei ystyried gan y Cynulliad. "Bydd y Mesur arfaethedig yn cadarnhau statws swyddogol i'r iaith Gymraeg; yn creu hawliau ieithyddol o safbwynt darparu gwasanaethau ac yn sefydlu swydd Comisiynydd Iaith. "Mae'r rhain yn gamau pwysig iawn tuag at gyflawni nod y Llywodraeth hon o sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn ffynnu. "Rydym yn cydnabod na all deddfwriaeth yn unig gyflawni'r nod hon ac mae'r adroddiad hwn yn dangos ein cynnydd mewn nifer o ardaloedd lle rydym yn gweithio i gefnogi'r iaith Gymraeg."
Mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried Mesur Yr Iaith gymraeg (Cymru)
|
'Torri addewidion' Dywedodd Bethan Williams, llefarydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Unwaith eto, rhagor o eiriau gwag gan lywodraeth sydd wrthi'n torri ei haddewidion i'r cyhoedd ar yr iaith Gymraeg. "Er gwaethaf ei hymrwymiadau, mae pob cyfreithiwr yn datgan yn glir: ni fydd gan y Gymraeg statws swyddogol o dan Fesur Iaith arfaethedig y Llywodraeth. "Ni fydd hawliau i unigolion ddefnyddio, gweld, dysgu a chlywed y Gymraeg ychwaith. Maen nhw'n ceisio camarwain y cyhoedd, ac yn colli cyfle euraidd i gynyddu defnydd y Gymraeg am genhedlaeth arall hefyd."
|