British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 12 Gorffennaf 2010, 05:30 GMT 06:30 UK
Cyfrifiaduron cyflym yn hwb i ymchwil a busnes Cymru

Allweddell cyfrifiadur
Mae disgwyl buddsoddiad o £40 miliwn dros gyfnod o bum mlynedd

Bydd £40 miliwn yn cael ei fuddsoddi mewn cyfrifiaduron fel y bydd Cymru ar flaen y gad.

Bydd y cynllun pum mlynedd yn golygu y bydd busnesau a phrifysgolion ar eu hennill yn y tymor hir, meddai llefarydd ar ran Llywodraeth y Cynulliad.

Fe fydd y cyfrifiaduron yn gallu delio â swm sylweddol o ddata.

Bwriad HPC Cymru, prosiect rhwng Llywodraeth y Cynulliad, Llywodraeth Prydain a'r sector breifat yw creu rhwydwaith dechnoleg gref rhwng prifysgolion a busnesau.

Fe fydd yn ôl y llywodraeth, o fudd economaidd ar gyfer gwaith ymchwil a datblygiad.

"Fe fydd y cyfrifiaduron yn cyflawni mewn diwrnodau yr hyn y mae cyfrifiaduron arferol yn ei wneud mewn misoedd," meddai'r llefarydd.

Adnewyddu'r economi

Gall y cyfrifiaduron gael eu defnyddio ar gyfer gwaith graffeg, ymchwil ynni niwclear ac amrywiaeth o bethau eraill.

Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i uwchraddio systemau cyfrifiadurol ym mhrifysgolion Caerdydd ac Abertawe.

Yna bydd is-ganolfannau cysylltiedig ym mhrifysgolion eraill a chanolfannau Technium o amgylch Cymru.

Dywedodd Ieuan Wyn Jones, y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, y byddai'r cynllun yn cyfrannu'n fawr at bolisi'r llywodraeth ar adnewyddu'r economi.

Yr wythnos diwethaf cyhoeddodd y byddai newid pwyslais ar y modd mae £240 miliwn yn cael ei wario i ddatblygu'r economi.

"Un o brif amcanion Rhaglen Adnewyddu'r Economi yw addasu ein cyllideb £240 miliwn ar gyfer datblygu'r economi i sicrhau ei bod yn canolbwyntio'n fwy ar ddatblygu'r sgiliau priodol i'n gweithlu a hybu ymchwil a datblygiad o safon fyd-eang."

Y gobaith yw y bydd 400 o swyddi yn cael eu creu yn y diwydiant.

Bydd dros 100 o brosiectau arloesol yn gallu elwa o'r cyfrifiaduron cyflym, sy'n amrywio o waith meddygol i newid hinsawdd.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific