British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 8 Gorffennaf 2010, 16:30 GMT 17:30 UK
E.coli: Carwyn yn wfftio honiadau

Carwyn Jones
Carwyn Jones: Yn gwadu'r honiadau

Mae dadlau chwyrn wedi bod yn y cynulliad wrth i'r Prif Weinidog, Carwyn Jones, wfftio honiadau nad oedd safonau glendid bwyd wedi gwella yng Nghymru ers cyfres o achosion E.coli yn 2005.

Fe ofynnodd yr AC Ceidwadol, Andrew R T Davies, gwestiynau yn y Pwyllgor Iechyd am argymhellion adroddiad yr Athro Hugh Pennington.

Daeth i'r amlwg nad oedd Mr Jones wedi cwrdd ag Asiantaeth Safonau Bwyd na chyrff eraill ers cyhoeddi'r adroddiad.

Dywedodd Mr Davies: "Dwi'n awgrymu i chi, Brif Weinidog, nad ydych chi wedi rhoi'r argymhellion ar waith ac nad ydych wedi rhoi arweiniad clir.

"Rwy'n clywed beth rydych chi'n ei ddweud," meddai, "ond dwi'n credu y bydd pobl y tu allan i'r siambr yn darllen y cofnod ac yn ffurfio barn eu hunain ..."

Dywedodd Mr Jones ei fod yn gwadu'r honiadau nad oedd dim wedi ei wneud.

Cyhuddodd Mr Davies o gamarwain pobl.

"Pe baech chi am fod yn gyfreithiwr, fe ddylech chi gael hyfforddiant," meddai.

"Rwyf eisoes wedi dweud bod y Prif Swyddog Meddygol yn delio â'r argymhellion.

"Rwyf hefyd wedi cymryd camau i sicrhau fy mod yn fodlon y byddai'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn gallu cymryd camau."

Dywedodd taw camarweiniol oedd dweud nad oedd "dim wedi digwydd dros gyfnod o saith mis."

Mae cyfarfod rhwng y Prif Weinidog a chynrychiolwyr yr Asiantaeth Safonau Bwyd wedi ei drefnu ar gyfer wythnos nesa.



HEFYD
E.coli: 156 o achosion
12 Hyd 05 |  Newyddion
E.coli 0157: Ymchwiliad
16 Medi 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific