British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 8 Gorffennaf 2010, 06:16 GMT 07:16 UK
Hwb i newid system rhoi organau yng Nghymru

Cerdyn rhoddwr
Mae Llywodraeth y Cynulliad am newid y system yng Nghymru

Atgoffa pobl o bwysigrwydd ymuno gyda'r gofrestr rhoi organau fydd neges Gweinidog Iechyd Cymru.

Yn ôl y ffigyrau diweddara mae 333 o bobl yng Nghymru yn aros am drawsblaniad ac mae un person yn marw bob 11 niwrnod.

Y llynedd fe gafodd 161 o organau eu trawsblannu.

Ond mae elusennau yn rhybuddio nad ydi'r nifer yn ddigonol.

Mae 826,000 o bobl yng Nghymru wedi cofrestru eisoes ond y gobaith ydi cynyddu hynny.

Mwy o enwau

Mae Edwina Hart yn dal i ymgyrchu ar gyfer newid y system yng Nghymru lle bydd pobl yn dewis peidio rhoi organau yn hytrach nag yn dewis rhoi.

Ond mae hi'n dal eisiau gweld mwy o bobl yn rhoi eu henwau ar y gofrestr bresennol.

Cario organ
Mae 333 o bobl yn aros am drawsblaniad yng Nghymru

Fe fyddai newid y system yn golygu fod organau yn cael eu cymryd yn awtomatig - oni bai bod yr unigolyn yn cofrestru nad dyma ei ddymuniad neu fod y teulu yn gwrthod.

Daw'r hwb diweddara yn ystod Wythnos Trawsblannu Cenedlaethol.

Fe fydd Ms Hart yn rhoi tystiolaeth ddydd Iau i bwyllgor iechyd y Cynulliad Cenedlaethol fel rhan o'r ymgyrch i newid y system.

Petai hyn yn cael ei wneud, Cymru fyddai'r wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno'r system.

Mae 'na gynnydd wedi bod yn y nifer yng Nghymru sydd wedi cofrestru i roi organau 20,000 ers 2008-09 i'r 826,000 erbyn hyn.

Ymgynghori

"Dwi'n falch fod 'na gamau sylweddol wedi eu cymryd yng Nghymru ond mae'n rhaid mynd ymhellach," meddai Ms Hart.

"Ein bwriad yw parhau i geisio deddfu ar gyfer newid y system ar y cyfle cynta posib yng Nghymru.

"Fe fydd teulu'r unigolyn yn dal yn rhan o'r broses."

Dywedodd y bydd yn cymryd peth amser i gyflwyno'r system yn llawn wedi i'r pwerau gael eu rhoi i'r Cynulliad.

Yn ystod Wythnos Trawsblannu Cenedlaethol, mae 'na ymgyrch i annog mwy o bobl i drafod gyda'u teuluoedd am eu barn a'u dymuniadau wedi iddyn nhw farw.

Ym mis Awst fe fydd canolfan arennol newydd yn agor yn Ysbyty Athrofaol Cymru Caerdydd, ar gost o £4.2 miliwn gan Lywodraeth y Cynulliad.

Erbyn 2012 y gobaith y bydd modd i 160 o gleifion gael triniaeth yno bob blwyddyn yn hytrach na'r 90 a fydd yn cael triniaeth yn y misoedd cyntaf.



HEFYD
Organau: Newid y drefn gofrestru?
18 Rhag 09 |  Newyddion
Organau: Annog mwy i gofrestru
28 Rhag 09 |  Newyddion
Organau: 'Y drefn bresennol'
17 Tach 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific