Bydd y ceir yn cael eu golchi a'u diheintio
|
Mae Comisiwn Coedwigaeth Cymru ac International Motor Sports, trefnwyr Rali Cymru GB, wedi cadarnhau y bydd y ras yn digwydd fel arfer ym mis Tachwedd. Daw hyn er gwaetha gohirio Rali Bae Abertawe ddydd Mawrth oherwydd haint sy'n lladd coed. Bydd cymal cynta Rali Cymru'n cael ei gynnal yng Nghoedwig Hafren ger Aberystwyth. Wedyn fe fydd y daith drwy goedwigoedd Maesyfed, Crychan a Halfway, ardaloedd sydd heb eu heintio, cyn gorffen mewn coedwig ger Resolfen lle mae'r haint mewn coed llarwydd Japan. Gall yr haint ledu o goeden i goeden wrth i ddail fynd yn sownd i bobl neu gerbydau. Canllawiau Bydd y ceir yn cael eu golchi a'u diheintio ar ddiwedd y rali cyn teithio i Gaerdydd ar gyfer diwedd seremoniol y rali yno. Bydd gofyn i gefnogwyr ddilyn canllawiau bio-ddiogelwch er mwyn lleihau'r perygl o heintio - fel glanhau eu hesgidiau a chadw at lwybrau swyddogol. Roedd yr haint mewn coed llarwydd Japan yn ne Cymru ym mis Mehefin ac mae coedwigoedd yn cael eu harchwilio oherwydd pryder fod yr haint eisoes wedi lledu i goedwigoedd eraill. Bydd Comisiwn Coedwigaeth Cymru yn monitro'r sefyllfa yn ystod y dyddiau ac wythnosau cyn y ras ar Dachwedd 11. Cafodd Rali Bae Abertawe ei gohirio gan fod llwybr y rali o goedwigoedd wedi'u heintio i goedwigoedd heb eu heintio.
|