British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 7 Gorffennaf 2010, 11:02 GMT 12:02 UK
Colli 200 o swyddi mewn ffatri

Linamar

Bydd 200 o swyddi'n cael eu colli wrth i ffatri cydrannau ceir ger Abertawe gau, medd undeb.

Yr ofnau yw y bydd ffatri Linamar yn cau erbyn diwedd 2010 ac y bydd y gwaith yn symud dramor.

Mae undeb Unite wedi condemnio hyn ac wedi galw am drafodaethau brys er mwyn ceisio achub y swyddi.

Dywedodd yr ysgrifennydd rhanbarthol, Andy Richards: "Mae cau'r ffatri hon ger Abertawe yn ergyd fawr arall i'r economi leol a'r diwydiant ceir yng Nghymru sydd eisoes wedi diodde'n enbyd yn y dirwasgiad.

"Bydd Unite yn gwneud popeth o fewn eu gallu i gadw'r ffatri yma ar agor."

Mae cau'r ffatri hon ger Abertawe yn ergyd fawr arall i'r economi leol a'r diwydiant ceir yng Nghymru
Andy Richards

Ysgrifennydd Rhanbarthol Cymru

Undeb Unite

Fe gafodd y ffatri ei hagor ers y chwedegau.

Cwmni Ford a Visteon oedd yn berchen arni cyn iddi fynd i ddwylo'r gweinyddwyr yn 2009.

Y Linamar Corporation o Ganda brynodd y ffatri.

"Er ei bod hi'n hwyr yn y dydd," meddai Mr Richards, "rydym yn gwahodd y cwmni i drafod gyda ni a gwleidyddion er mwyn edrych am ffordd o gadw'r lle ar agor."

Mae Unite wedi siarad â Phrif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, ac Aelod Seneddol Castell Nedd, Peter Hain i ofyn am eu cefnogaeth.



HEFYD
Colli swyddi: Cyfarfod cyhoeddus
16 Rhag 08 |  Newyddion
Cwmni ceir: 'Cam positif ymlaen'
20 Hyd 07 |  Newyddion
Poeni am 200 o swyddi
05 Rhag 08 |  Newyddion
Penderfyniad cyn hir i bensiynwyr
05 Gorff 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific