British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 7 Gorffennaf 2010, 05:50 GMT 06:50 UK
Cwestiynu arian gan y Llywodraeth tuag at Y Faenol

Y Faenol
Chafodd Gwyl Y Faenol 2009 ddim ei chynnal

Mae Llywodraeth y Cynulliad yn rhoi bron i £250,000 i ŵyl gerddorol yng ngogledd Cymru ddyddiau yn unig ar ôl i nifer o fudiadau celfyddydol golli arian cyhoeddus.

Gŵyl Y Faenol ar gyrion Y Felinheli, Gwynedd, fydd yn derbyn yr arian.

Yr wythnos ddiwethaf cafodd cais am nawdd gan nifer o fudiadau celfyddydol ei wrthod gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Dywed y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn y cynulliad fod y swm dan sylw yn 'sylweddol' a bod yna gwestiynau i'w gofyn.

Roedd cais Eisteddfod Llangollen am nawdd ymhlith y rhai gafodd ei wrthod gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Mae Llywydd Anrhydeddus yr Eisteddfod, Eleanor Burnham AC, yn dweud fod gan Lywodraeth y Cynulliad gwestiynau i'w hateb.

"Be sydd yn amheus, yn ddadleuol ac yn ddiddorol i mi ydi fod y cyrff yma i gyd wedi mynd drwy broses fanwl dros fisoedd i gael arian gan Gyngor y Celfyddydau ac eto'r munud nesaf mae un yn cael arian sylweddol (gan y Llywodraeth) ... hwyrach y byddai Eisteddfod Llangollen wedi licio chwarter miliwn," meddi Ms Burnham o'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru bod y swm sydd yn cael ei roi i Ŵyl Y Faenol "yn sylweddol" yng nghyd-destun toriadau yng nghyllideb sefydliadau celfyddydol eraill.

"....yn sicr mae cwestiynau i'w gofyn ynglŷn â ddylid rhannu'r arian rhwng nifer o brosiectau celfyddydol ar hyd a lled Cymru," meddai Nick Bourne.

Mae penderfyniadau'r cyngor ar ariannu mudiadau celfyddydol yn cael eu gwneud "led braich" o'r llywodraeth, heb unrhyw ymyrraeth gan weinidogion.

Mae Gŵyl Y Faenol, sy'n cael ei threfnu gan Bryn Terfel, yn ŵyl sydd â bwriad o wneud elw.

Amseroedd caled

Bu cwmwl ariannol dros yr ŵyl yn y blynyddoedd diweddar a bu'n rhaid gohirio'r penwythnos ym mis Awst 2009.

Mae'r cyrff yma i gyd wedi mynd drwy broses fanwl dros fisoedd i gael arian gan Gyngor y Celfyddydau ac eto munud nesaf mae un yn cael arian sylweddol
Eleanor Burnham, AC

Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi cytuno i roi cymorth o £240,000 dros y tair blynedd nesaf gyda £100,000 tuag at yr ŵyl eleni.

Ond mae taliadau o £80,000 flwyddyn nesaf a £60,000 yn y flwyddyn ganlynol yn ddibynnol ar ''ganlyniad cadarnhaol i adolygiad o lywodraethiant yr ŵyl ac adolygiad o Ystâd Y Faenol fel canolfan i gynnal digwyddiadau mawr yng ngogledd Cymru."

Bydd Gŵyl Y Faenol yn cael ei chynnal ar benwythnos olaf mis Awst.

Eleni mae'r trefnwyr wedi denu grwpiau adnabyddus fel Westlife, Athlete a Shed Seven.

Fe fydd Bryn Terfel yn ymddangos gydag Opera Genedlaethol Cymru ar y nos Sadwrn.

Mae llefarydd ar ran Llywodraeth y Cynulliad yn dweud y bydd nifer o ddigwyddiadau yn derbyn arian yn unol â'r canllawiau sydd eisoes wedi eu cytuno.

Dywedodd llefarydd ar ran Y Faenol na fydde nhw'n gwneud sylw gan nad ydyn nhw wedi arwyddo cytundeb gyda Llywodraeth y Cynulliad.



HEFYD
Celfyddydau: Llai i dderbyn arian
29 Meh 10 |  Newyddion
Westlife yn agor Gwyl Y Faenol
12 Mai 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific