British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 6 Gorffennaf 2010, 13:59 GMT 14:59 UK
Cadw iSteddfodwyr yn App-us

iSteddfod
Bydd yr holl wybodaeth ar yr iSteddfod

Eleni mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn defnyddio'r dechnoleg ddiweddara er mwyn rhoi gwybodaeth i Eisteddfodwyr.

Gan fod cymaint o weithgareddau ar y Maes yng Nglyn Ebwy, mae'n anodd cadw llygad ar bopeth ond mae'r trefnwyr wedi dweud mai'r iSteddfod yw'r ateb.

Bydd modd i unrhyw Eisteddfodwr ag iPhone gael gwybodaeth am bopeth sy'n digwydd ar y Maes.

Hwn yw'r tro cyntaf i'r dechnoleg gael ei defnyddio yn y Gymraeg i hybu gŵyl.

Dywedodd un o'r datblygwyr, Ambrose Choy: "Rydw i'n cefnogi'r Eisteddfod ond wedi teimlo erioed nad oedd 'na ffordd hawdd o gael gafael ar y wybodaeth i gyd mewn un lle wrth symud o gwmpas.

"Cawsom y syniad i greu iSteddfod ar ôl Eisteddfod y llynedd a dyma ni.

"Mae wedi cymryd misoedd a rydym wedi gweithio'n agos gyda'r Eisteddfod drwy gydol y broses a gobeithio y bydd pobl yn teimlo ei fod yn adnodd gwerthfawr.

"Rydym ni'n falch iawn ein bod wedi llwyddo i greu prosiect unigryw yn y Gymraeg ac rydym yn edrych ymlaen at weld nifer o 'apps' Cymraeg eraill yn cael eu lansio dros y misoedd nesaf."

Pafiliwn pinc yr Eisteddfod
Hwn yw'r tro cyntaf i'r dechnoleg gael ei defnyddio i hybu gŵyl Gymraeg

Dywedodd Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod: "Bydd iSteddfod yn adnodd penigamp ar gyfer ein hymwelwyr yn ystod yr Eisteddfod ac wrth i bobl gynllunio'r wythnos.

"Mae hwn yn sicrhau bod yr Eisteddfod yn berthnasol i gynulleidfa dechnegol aeddfed, ac mae'r ffaith mai dyma'r app cyntaf o'i fath yn y Gymraeg yn hwb nid yn unig i ni ond hefyd i'r iaith yn gyffredinol.

"Mae'n dda gweld yr iaith yn cael ei defnyddio ym myd technoleg ac rwy'n edrych ymlaen at weld iSteddfod yn cael ei ddatblygu ymhellach yn y dyfodol."

Mae Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a Blaenau'r Cymoedd yn Y Gweithfeydd, Glyn Ebwy o Orffennaf 31 tan Awst 7.




Tudur Hallam Cadair Tudur
Tudur Hallam enillodd Gadair y Brifwyl

GWEFANNAU


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific