British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 5 Gorffennaf 2010, 12:11 GMT 13:11 UK
Marwolaeth: Dirwy i gwmni Comet

Paul Alker
Doedd Mr Alker ddim yn gwysgo harnais diogelwch

Cafodd Comet ddirwy o £75,000 ar ôl i weithiwr gael ei ladd tra'n gweithio ar do un o siopau'r cwmni yn Wrecsam.

Bu farw Paul Alker yn 2007.

Plediodd Comet yn euog i fethu a diogelu gweithiwr ar eu safle.

Bydd yn rhaid i'r cwmni hefyd dalu costau o £24,446.

Clywodd gwrandawiad blaenorol nad oedd Mr Alker a gweithiwr arall wedi cael cyfarwyddyd i wisgo harnais diogelwch.

Bu faw Mr Alker rai dyddiau ar ôl syrthio 24 o droedfeddi drwy do gwan.

Ar y pryd roedd y ddau yn cael eu cyflogi gan Steven Smith o gwmni Wrexham Roofing Services.

Cafodd Smith ei garcharu am ddwy flynedd yn 2007 am ddynladdiad drwy esgeulustod dwys.

Clywodd y gwrandawiad blaenorol nad oedd Comet wedi digon i reoli cwmni Smith.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific