British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 2 Gorffennaf 2010, 15:25 GMT 16:25 UK
Toriadau iechyd o bron i £2bn?

Edwina Hart
'Rhaid arbed £435m eleni' medd y Gweinidog Iechyd Edwina Hart

Mae'n bosib y bydd yn rhaid i'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru arbed £1.9bn dros y pum mlynedd nesaf.

Dyna ddywedodd y Gweinidog Iechyd,Edwina Hart wrth Uwch Gynhadledd Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yng Nghaerdydd ddydd Gwener.

Cyhoeddodd hefyd bod yr arbedion yn bosib yng Nghymru os bydd y gwahanol gyrff cyhoeddus yn y maes yn cydweithio'n glos ac effeithiol gyda'i gilydd.

"Y llynedd fe lwyddodd y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru i arbed dros £200m drwy dorri ar y cyfnod y bu cleifion yn aros yn yr ysbyty a lleihau nifer y bobl ddanfonwyd i ysbytai yn ddiangen yn y lle cyntaf.

"Eleni mae'n rhaid i ni arbed 8% o'n cyllideb flynyddol yn y maes iechyd sef £435m sy'n swm anferthol ac felly mae gofyn i ni dorri'r brethyn gorau gallwn ni a pharhau i gynnig y gwasanaeth gorau posib".

Y llynedd lleihawyd nifer y byrddau iechyd o 22 i saith er mwyn ceisio gwella gweinyddiaeth iechyd yng Nghymru.

'Niweidiol'

Bu'r Prif Weinidog, Carwyn Jones, yn annerch cyfarfod y Gwasanaethau Cyhoeddus ddydd Gwener hefyd ac fe bwysleisiodd bod gan y toriadau yn y gyllideb Brydeinig y potensial i fod yn "hynod o niweidiol i rai o aelodau mwyaf bregus ein cymdeithas".

Addawodd Carwyn Jones y byddai'n teithio ledled Cymru dros yr haf i gyfarfod cynrychiolwyr y sector cyhoeddus er mwyn clywed barn yr "arbenigwyr yn y maes" am y ffordd orau o arbed arian, tra ar yr un pryd warchod y gwasanaethau craidd.

"Fe wnaf fy ngorau glas i ddefnyddio fy awdurdod i sicrhau bod eu harbenigedd a'u cyngor yn cael eu gweithredu er lles pawb".



HEFYD
Pryder undeb am gwtogi staff
03 Ebr 10 |  Newyddion
Byrddau iechyd yn gorwario £43m
25 Chwef 10 |  Newyddion
Pryder am safon gwasanaeth iechyd
20 Ion 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific