Dim ond unwaith y mae'r sonata wedi ei pherfformio mewn 60 mlynedd
|
Bydd sonata, gyfansoddwyd gan William Mathias yn 17 oed, yn cael ei pherfformio am y tro cyntaf ers 60 mlynedd. Er bod cyn bennaeth yr Adran Gerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor wedi cyfansoddi ar gyfer unawdwyr, corau a cherddorfeydd dros y blynyddoedd, doedd y gwaith a gyfansoddwyd ganddo pan oedd yn ifanc heb weld golau dydd ers blynyddoedd maith. Y pianydd Iwan Llewelyn-Jones ddaeth o hyd i lawysgrif y sonata wrth wneud gwaith ymchwil am gyfansoddwyr Cymreig yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth. Felly ddydd Gwener, 60 mlynedd wedi iddi gael ei chyfansoddi, bydd sonata goll William Mathias yn cael ei pherfformio gan y pianydd o Ynys Môn a'r feiolinydd Sara Trickey yn Galeri, Caernarfon. Dywedodd Iwan Llewelyn-Jones bod "dod o hyd i'r llawysgrif yn hynod o gyffrous". "Roedd tri chopi o'r sonata wedi eu hysgrifennu'n daclus â llaw ac roeddwn i'n gwybod yr eiliad honno bod yn rhaid i'r gwaith gael ei berfformio". 'Amheus' Roedd Rhiannon Mathias, merch y cyfansoddwr, ychydig yn amheus pan ofynnodd Iwan Llewelyn-Jones am ei chaniatâd i berfformio'r cyfansoddiad. "Fe gyfansoddodd fy nhad y gwaith pan yn 17 oed ac er iddo ei berfformio unwaith pan oedd yn fyfyriwr yn y brifysgol, fe benderfynodd ei roi i gadw.
Mae Iwan Llewelyn-Jones a Sara Trickey wedi recordio CD o dair sonata gan William Mathias
|
"Mi wnaeth o hynny, o bosib, gan nad oedd o eisiau i'r gwaith gael ei berfformio'n gyhoeddus eto a fy mlaenoriaeth i, fel ceidwad ei waith, ydi parchu ei ddymuniadau. "Serch hynny, unwaith i Iwan ddangos y gwaith i mi - roedd y penderfyniad yn hawdd gan fod y darn yn aruthrol gyda chyffyrddiadau sy'n nodweddiadol o waith diweddarach fy nhad." Mae Rhiannon Mathias hefyd yn credu bod lleoliad y perfformiad yn hynod addas gan fod Galeri'n gartref i Ganolfan Gerdd William Mathias a bod Iwan Llewelyn-Jones yn diwtor yno. Dywedodd Iwan Llewelyn-Jones y bydd y perfformiad yn "ddifyr i bobl ifanc glywed sonata sydd wedi ei chyfansoddi gan hogyn 17 oed". "Efallai y bydd yn ysbrydoli un ohonyn nhw i ddatblygu'n un o gyfansoddwyr amlwg nesaf Cymru."
|