Mae'r ŵyl wedi ei chynnal ar dir yn Llanfyrnach ers 2004
Mae trefnwyr gŵyl gerddorol yn Sir Benfro wedi canslo'r digwyddiad eleni. Roedd Cyngor Sir Penfro wedi diddymu trwydded Gŵyl Geltaidd y Garreg Las a'i atal rhag cael ei gynnal ger Llanfyrnach rhwng Awst 6 a 8. Dywedodd y cyngor ei bod wedi tyfu o ŵyl gymunedol yn 2004 i "ddigwyddiad sylweddol" ar gyfer hyd at 10,000 o bobl. Dywedodd y trefnwyr eu bod wedi penderfynu canslo'r digwyddiad eleni "gyda thristwch" ond eu bod yn bwriadu cynnal gŵyl y flwyddyn nesaf. Roedd disgwyl i'r bandiau The Beat a Goldie Lookin' Chain berfformio yno eleni. Mewn datganiad dywedodd pwyllgor gwirfoddol y digwyddiad bod y penderfyniad i ganslo wedi bod "yn un anodd" a'i bod wedi ystyried yn ddwys cyn gwneud cyhoeddiad. 'Marchnata' Dywedodd y pwyllgor eu bod wedi bwriadu apelio yn erbyn penderfyniad y cyngor i ddiddymu'r drwydded gan fynnu eu bod yn cynnal yr ŵyl yn llwyddiannus a bod 'na adnoddau sylweddol yno. "Yn anffodus, roedd y dyddiadau ar gyfer y gwrandawiad apêl yn rhy agos at ddyddiad yr ŵyl ac felly ychydig o amser fyddai yno i drefnu a marchnata'r ŵyl," meddai llefarydd. "Mae 'na le i'r digwyddiad yng nghalendr haf nifer o bobl Sir Benfro a'r siroedd cyfagos ac felly mae'n edifar ganddo ni ein bod yn gorfod canslo am y flwyddyn." Dywedodd y bydd y rhai sydd eisoes wedi prynu tocynnau yn cael dau docyn ar gyfer y digwyddiad y flwyddyn nesaf. "Blwyddyn i ffwrdd yn unig yw hyn," meddai. "Fe fyddwn yn ôl y flwyddyn nesaf, a thrwy'r 12 mis nesaf fe fyddwn yn gweithio a chynllunio ar gyfer y digwyddiad y flwyddyn nesaf a fydd yn fwy ac yn well nag y bu yn y gorffennol." Roedd gan Gyngor Sir Penfro bryderon am gyhoeddi trwydded i'r pwyllgor gan ddweud bod cynghorwyr yn poeni am allu rheoli'r ŵyl wrth iddi dyfu.
|