British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 1 Gorffennaf 2010, 11:04 GMT 12:04 UK
Cwmni darlledu yn creu 15 swydd

Mae cwmni NEP UK wedi sefydlu cwmni newydd i fod yn gyfrifol am stiwdio ac adnoddau darlledu allanol yng Nghaerdydd.

Mae NEP Cymru OB Ltd yn cymryd asedau a staff gan weinyddwyr Grant Thornton, wedi i Grŵp Barcud Derwen ddod i ben yn gynharach y mis hwn.

Dywed cwmni NEP Cymru OB y byddant yn cyflogi 15 aelod o staff hen gwmni Omni, oedd yn rhan o Grŵp Barcud Derwen.

Tony Cahalane fydd yn arwain y cwmni newydd o'r swyddfa yng Nghaerdydd.

'Dirywiad anffodus'

Dywedodd Steve Jenkins, cyfarwyddwr gweithredol NEP UK: "Wedi dirywiad anffodus Grŵp Barcud Derwen, fe aeth NEP ati i gymryd y cyfle i roi darparwr adnoddau stiwdio a darlledu allanol, ag iddo gefnogaeth gref, yn ôl i mewn i Gymru."

'Sicrwydd'

Dywedodd Tony Cahalane, rheolwr gyfarwyddwr NEP Cymru OB: "Mae wedi bod yn holl bwysig i ni barhau fel cwmni darlledu Cymreig ac rydym yn hapus dros ben ein bod nawr yn rhan o un o'r cwmnïau darlledu allanol rhyngwladol mwyaf.

"Mae hyn yn rhoi cefnogaeth a sicrwydd sydd ei angen arnom ar hyn o bryd wrth barhau i fod yn agos at nifer o'n prif gwsmeriaid gartref."

Yn ogystal â darllediadau allanol, fe fydd NEP Cymru yn cynnig stiwdio 7,500 troedfedd sgwâr gyda gallu Manylder Uwch a Manylder Safonol all ddal cynulleidfa o hyd at 300, yn ogystal â stafelloedd colur, swyddfa gynhyrchu ynghyd ag ail stiwdio 400 troedfedd sgwâr.

Daeth trafferthion ariannol grŵp Barcud Derwen, y cwmni adnoddau teledu mwyaf y tu allan i Lundain, i'r amlwg ym mis Mai, ac mae dros 100 o bobl wedi colli eu gwaith o ganlyniad.



HEFYD
Barcud: Colli mwy o swyddi
18 Meh 10 |  Newyddion
'Pob help' er mwyn achub swyddi
10 Meh 10 |  Newyddion
Chwilio am brynwr i gwmni adnoddau
24 Mai 10 |  Newyddion
Cytundeb newydd i gwmni teledu
12 Mai 10 |  Newyddion
Diwedd y daith i Uned 5
27 Tach 09 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific