British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 30 Mehefin 2010, 14:51 GMT 15:51 UK
Bwyd a chrefftau lleol yn y Faenol

Bryn Terfel
Mae Bryn Terfel yn edrych ymlaen at gyfuno tri o'i hoff bethau

Ddydd Mercher cyhoeddodd Bryn Terfel y bydd ffair fwyd a chrefftau yn rhan o Ŵyl y Faenol eleni.

Bydd yr ŵyl fwyd a chrefftau yn cael ei chynnal rhwng 11.00am a 7.00pm am bedwar diwrnod dros benwythnos Gŵyl y Banc fis Awst. (Awst 27-30)

Bydd pobl sydd wedi prynu tocynnau ar gyfer perfformiadau'r nos yn cael mynediad am ddim i brofi a blasu cynnyrch lleol Cymru.

Gall pobl nad sydd am fynychu'r cyngherddau gyda'r hwyr fynd i'r ffair fwyd a chrefftau am £5 yn ddyddiol.

Bydd mynediad am ddim i blant a phobl ifanc o dan 16.

Mae'r datblygiad newydd hwn wedi ei drefnu ar y cyd gyda Welsh Country Magazine a dywedodd Bryn Terfel:

"Dwi wrth fy modd efo cerddoriaeth,bwyd a diod o safon - felly dyma benderfynu cyfuno'r tri pheth!

Y dorf yn mwynhau
Gobaith y trefnwyr yw denu'r miloedd i'r Faenol unwaith eto

"Beth all fod yn well na phrofi cynnyrch gorau Cymru, gwrando ar berfformwyr gorau'r byd yn un o leoliadau hardda'r byd?"

Cynnyrch lleol

Bydd theatr fwyd arbennig yn cael ei threfnu gan gwmni Waitrose dros gyfnod yr ŵyl a dywedodd Gareth Hind, rheolwr cangen Porthaethwy, bod hwn yn "gyfle gwych i arddangos bwydydd lleol ac yn siawns i ni fel cwmni ddangos ein hymrwymiad i werthu cynnyrch lleol hefyd".

Os oes gan unrhyw un ddiddordeb arddangos eu cynnyrch yn yr ŵyl, dylid cysylltu efo Ian Mole ar 01559 371986.



HEFYD
Gwyl y Faenol i'w chynnal eleni
28 Ebr 10 |  Newyddion
Westlife yn agor Gwyl Y Faenol
12 Mai 10 |  Newyddion
Wyth yn cystadlu am ysgoloriaeth
06 Meh 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific