Cafodd y disgyblion wers yng nghaffi'r Senedd fel protest
|
Fe gafodd disgyblion Ysgol Gymraeg Treganna wers ychydig yn wahanol i'r arfer wrth iddyn nhw gynnal protest yng nghaffi'r Senedd ym Mae Caerdydd. Mae 'na anfodlonrwydd fod Llywodraeth y Cynulliad wedi gwrthod cynlluniau Cyngor Sir Caerdydd i adrefnu ysgolion cynradd yng ngorllewin y brifddinas. Yn ôl y protestwyr roedd 'na "fwy o le" i gynnal gwers yn y caffi nag yn yr ystafell ddosbarth. Bu'r disgyblion yno am ddwy awr. Rhieni o blith Grŵp Ymgyrchu Treganna, sydd wedi bod yn ymgyrchu ers dros bedair blynedd i leddfu'r broblem o ddiffyg lle yn yr ysgol, oedd yn gyfrifol am y wers. Mae Grŵp Ymgyrchu Treganna wedi beirniadu'r Prif Weinidog Carwyn Jones am fethu datrys y sefyllfa annerbyniol bresennol. Teimladau cryf Maen nhw'n anfodlon bod 'na lefydd gwag mewn ysgolion cyfrwng Saesneg y ddinas a diffyg lle mewn ysgolion Cymraeg.
"Yng nghyfarfodydd diweddar grŵp ymgyrchu Ysgol Treganna a Than yr Eos mae 'na deimladau cryfion wedi eu mynegi yn dilyn penderfyniad diweddar y Prif Weinidog Carwyn Jones i wrthod cynlluniau Cyngor Dinas Caerdydd ar gyfer ad-drefnu ysgolion yn ward Treganna'r ddinas," meddai Morgan Hopkins, Cadeirydd Grŵp ymgyrchu Ysgol Treganna a Than yr Eos. "Ar hyn o bryd dengys ffigurau'r Cyngor ei hun fod y pedair ysgol cyfrwng Saesneg yn y ward yn chwarter gwag (73%) tra bod y ddwy ysgol cyfrwng Cymraeg yn y ward yn llawn at yr ymyl gydag Ysgol Treganna yn erchyll o orlawn ac yn gorfod gweithredu ar draws tri safle. "Mae disgyblion Treganna a Than yr Eos wedi mynd â'i neges yn uniongyrchol at y Prif Weinidog. "Mae'n hawdd iawn iddo ef fod wedi penderfynu fel y gwnaeth ac yntau yn glyd yn adeilad y Senedd ym Mae Caerdydd, ond dylai fod yn ddigon dewr i ddod i weld drosto'i hun yr amgylchiadau gorlawn yn Ysgol Treganna a Than yr Eos." Ym mis Mai fe wnaeth y Prif Weinidog benderfynu gwrthod cynlluniau'r cyngor i gau ysgol cyfrwng Saesneg Lansdowne yn ardal Treganna er mwyn i Ysgol Gymraeg Treganna symud i'r adeilad. Dywedodd y byddai'r ad-drefnu yn "andwyol i safon darpariaeth addysg Saesneg". Mae cynghorwyr Plaid Cymru a Democratiaid Rhyddfrydol, y ddwy blaid sy'n rheoli Cyngor Caerdydd, yn anhapus gyda'r penderfyniad ond mae Mr Jones wedi galw am drafodaeth synhwyrol na fydd yn arwain at rwygiadau rhwng ysgolion Cymraeg a Saesneg yr ardal. Dywedodd mai dyletswydd y cyngor ydi meddwl am ffordd arall ymlaen a meddwl am gynllun arall.
|