British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 29 Mehefin 2010, 11:22 GMT 12:22 UK
Tenor o Sir y Fflint yn taro nodyn uchel

Bryn Terfel a John Pierce
Cyflwynwyd y wobr i John Pierce gan Bryn Terfel

Canwr o Dreffynnon fydd yn cynrychioli Cymru yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd yn 2011 wedi iddo ennill Cystadleuaeth i Gantorion Cymreig nos Lun.

Llwyddodd y tenor, John Pierce, 27 oed, ddod i'r brig yn y gystadleuaeth yn Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd a chipio £2,000 yn ogystal â'r hawl i gynrychioli ei wlad y flwyddyn nesaf.

Dywedodd Mr Pierce ei fod wedi ei "synnu'n fawr" gyda'r canlyniad, yn enwedig wrth ystyried bod ei ferch, Sophie, yn wyth wythnos oed.

"Roedd fy nain yn gantores ddawnus ond o ganlyniad i gyfyngiadau ariannol doedd hi ddim yn gallu dilyn ei breuddwyd o fod yn gantores broffesiynol," meddai.

Gwireddu breuddwydion

"Dwi rwan yn gallu gwireddu breuddwydion y ddau ohonan ni wrth i mi ddilyn gyrfa ganu.

"Hoffwn ddiolch i nain a fy rhieni am eu cefnogaeth a'u hysbrydoliaeth dros y blynyddoedd."

Cyflwynwyd ei wobr iddo gan Bryn Terfel.

Llwyddodd Catrin Aur Davies, Rebecca Afonwy-Jones a Samuel Evans i gyrraedd y rownd derfynol hefyd.

Gellir clywed y cyngerdd ar BBC Radio Cymru ddydd Sul Gorffennaf 4.



HEFYD
Ekaterina ar y brig
15 Meh 09 |  Newyddion
25 ar restr fer gornest
05 Meh 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific