British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 29 Mehefin 2010, 06:24 GMT 07:24 UK
Celfyddydau: Aros cyhoeddiad

Independent Ballet Wales
Fe fydd y sefydliadau yn cael gwybod faint o arian fydd ar gael iddyn nhw yn ddiweddarach

Fe fydd sefydliadau celfyddydol yn disgwyl yn eiddgar am gyhoeddiad Cyngor Celfyddydau Cymru ynglŷn â'u dyfodol.

Ddydd Mawrth fe fydd y cyngor yn cyhoeddi pa sefydlaidau fydd yn derbyn cyllid.

Bydd yr union swm y bydd sefydliadau unigol yn ei dderbyn yn cael ei benderfynu yn ddiweddarach.

Gallai'r cyhoeddiad gael effaith pellgyrhaeddol ar rai o'r sefydliadau bach.

Mae'r Cyngor wedi cynnal adolygiad gwariant gyda meini prawf newydd yn cael eu gosod.

Ond yn ôl y cyn-weinidog diwylliant Cymru Rhodri Glyn Thomas mae angen mwy o arian ar gyfer y diwydiant creadigol a chelfyddydol.

Dywedodd Mr Thomas wrth raglen Politics Show Cymru y gallai buddsoddiad yn y celfyddydau yng Nghymru arwain y wlad allan o'r dirwasgiad.

'Beiddgar'

"Fe fyddwn yn dadlau'n gryf bod angen i Gymru fuddsoddi yn y diwydiant creadigol a'r celfyddydau," meddai.

"Fe fyddwn yn dadlau'r achos dros roi £10 miliwn ychwanegol o fuddsoddiad gan eu bod yn feysydd lle y gellir arwain y wlad allan o'r dirwasgiad a chynnig gobaith economaidd newydd i ni."

Nick Capaldi
Dywedodd Nick Capaldi y bydd yn cefnogi'r 'gorau'

Mae'r Cyngor wedi dweud y bydd y cyhoeddiad ddydd Mawrth yn un "beiddgar a phendant".

Y llynedd fe wnaeth y Cyngor ddosbarthu £24 miliwn o arian y trethdalwyr i 97 o sefydliadau celfyddydol gwahanol o brosiectau bach cymunedol i sefydliadau mawr fel yr Opera Cenedlaethol, sy'n derbyn £4.5 miliwn.

Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor eu bod wedi derbyn cynlluniau busnes gan 116 o sefydliadau yn gofyn am £10 miliwn o gymorth ychwanegol.

Mae Mr Thomas wedi galw ar Lywodraeth y Cynulliad i gymryd pwyll ddiwedd y flwyddyn wrth benderfynu ar gyllid Cyngor y Celfyddydau.

"Dwi'n meddwl y gallai Llywodraeth y Cynulliad edrych ar yr hyn wnaeth cyn-arlywydd America Roosevelt i geisio cael America allan o'r dirwasgiad a gweld be all y celfyddydau ei wneud i adfywio'r economi," meddai Mr Thomas.

"Mae angen symud ymlaen drwy'r diwydiant celfyddydol wrth i'r hen ddiwydiannau mawr grebachu."

Fe wnaeth Mr Thomas amddiffyn yr arian sy'n cael ei roi i'r Opera a allai gael ei ddosbarthu i fwy o gwmnïau llai.

"Mae'n gwmni rhyngwladol ac mae'n rhan annatod o Ganolfan Mileniwm Cymru.

"Mae'r cwmni yn rhan allweddol o'r celfyddydau yng Nghymru."

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr y cwmni, Peter Bellingham, fod y cwmni yn disgwyl toriadau.

"Mae pobl yn credu y byddai'n haws i ni ddelio gydag unrhyw doriadau gan ein bod yn gwmni mawr, ond nid dyna'r gwir.

"Rhaid i ni aros a gweld fel pawb."

Mae Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru, Nick Capaldi, wedi dweud y bydd yn cefnogi'r "gorau" a'r rhai sy'n "rhan o'r gymuned" ochr yn ochr â daearyddiaeth a maint y sefydliad.

Mae o wedi dadlau bod y celfyddydau yn rhan o wasanaethau rheng flaen a'u bod yn fwy poblogaidd nag erioed gyda chynnydd o 20% yn nifer sy'n mynd i ddigwyddiad celfyddydol dros y tair blynedd diwethaf.



HEFYD
Celf: 'Cyfnod anodd'
20 Meh 10 |  Newyddion
Pryder cyllid i gwmni sy'n 25 oed
17 Tach 09 |  Newyddion
Gohirio gŵyl gerddorol
10 Meh 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific