Argraff arlunydd o'r prosiect newydd
Fe fydd uned arbennig ar gyfer yr henoed yn cael ei chodi ar dir Ysbyty Cefn Coed yn Abertawe. Yno bydd 60 o welyau ar gyfer rhai sy'n diodde o ddementia a chlefyd y meddwl a chyfleusterau arbennig ar gyfer asesu, rhoi triniaeth ac adsefydlu cleifion. Dywedodd Llywodraeth y Cynulliad y byddai'n rhoi £19m i'r prosiect fydd yn cael ei orffen yn ddiweddarach eleni. "Yn sicr, fe fydd hyn yn gwella gofal, preifatrwydd a hunanbarch cleifion ac fe fyddan nhw'n cyrraedd gwasanaethau'n rhwyddach," meddai Edwina Hart, y Gweinidog Iechyd. Fe fyddai'r uned, meddai, yn lle hen adnoddau ar safle Cefn Coed ac yn Ysbyty Garngoch yng Ngorseinon ac yn darparu yn arbennig ar gyfer cleifion sy yn yr uned am fwy na 18 mis. 'Llety i'r teulu' "Bydd mwy o le i ymwelwyr a llety i'r teulu os yw'r claf yn sâl iawn neu ar fin marw. "Dwi'n ymroddedig i newid gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru ac mae'r buddsoddi'n cyfrannu at hynny." Ym mis Rhagfyr cyhoeddodd Llywodraeth y Cynulliad y byddai £10m ar gael ar gyfer creu dwy uned fach yn yr ysbyty. Mae'r rhain ar fin bod yn barod. Dywedodd cadeirydd y bwrdd iechyd, Win Griffiths: "Rydyn ni'n falch bod Llywodraeth y Cynulliad yn cefnogi'r datblygiad pwysig hwn. "Fe fydd y cyfleusterau ar flaen y gad ac yn darparu'r gofal gorau."
|