British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 25 Mehefin 2010, 15:23 GMT 16:23 UK
Camp arall i Cleverly

Cleverly gyda'i wregys Ewropeaidd
Mae Cleverly wedi cyfuno ei waith cwrs efo'i focsio

Mae pencampwr bocsio îs-drwm Ewrop, Nathan Cleverly, wedi ennill gradd anrhydedd mewn mathamateg ym Mhrifysgol Caerdydd.

Safodd y bocsiwr o Gefn Fforest ei arholiadau fis Mehefin a bydd yn graddio'n swyddogol fis nesaf ond mae eisoes wedi clywed ei fod wedi cael gradd anrhydedd 2:2.

"Dyw hi heb fod yn hawdd dyrnu a dysgu ar yr un pryd.

"Mae'r myfyrwyr eraill wedi gallu canolbwyntio'n llwyr ar eu gwaith cwrs ac adolygu tra 'mod i wedi gorfod ymladd am deitlau Ewrop, Prydain a'r Gymanwlad".

Canolbwyntio

Brancalion a Cleverly
Cleverly'n cipio coron Ewrop yn erbyn Antonio Brancalion fis Chwefror

Mae Cleverly bellach yn barod i ganolbwyntio'n llwyr ar y llorio yn hytrach na'r llyfrau ac mae'n gobeithio ymladd am bencampwriaeth y byd o fewn y chwe mis nesaf.

"Dwi'n teimlo'n barod" meddai "ond mae 'da fi ffydd yn nghynllun fy hyrwyddwr, Frank Warren.

"Yn naturiol, wrth droi yn gwbl broffesiynol, fe ddylwn i wella'n fawr o fewn y misoedd nesaf.

"Gobeithio y galla i amddiffyn fy nghoron Ewropeaidd yn fuan ac wedyn fe fydda i'n gorfod sefyll am gyfle am y wobr fawr."



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific