Roedd hyd at 80,000, meddai'r cyngor, yn gwylio miloedd o aelodau'r lluoedd arfog yn gorymdeithio wrth i Gaerdydd gynnal Diwrnod y Lluoedd Arfog ddydd Sadwrn.
Hwn yw'r ail dro i ddiwrnod o'r fath gael ei gynnal a'r tro cynta yng Nghymru.
Roedd mwy na 350 o ddigwyddiadau yng ngwledydd Prydain.
Am 10.30am roedd seremoni codi'r faner ym mhob cyngor yng Nghymru.
Ychydig cyn 11am arweiniodd y Tywysog Charles a Duges Cernyw orymdaith o Gastell Caerdydd i Fae Caerdydd.
Roedd yr Ysgrifennydd Amddiffyn, Dr Liam Fox, a Phennaeth y Lluoedd Arfog, Syr Jock Stirrup, yn bresennol.
'Dyfodol iach'
Ar ôl cyrraedd y bae fe gafodd gwasanaeth crefyddol ei gynnal.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, fod "cydberthynas falch rhwng Cymru a'r lluoedd arfog".
"Mae 3,000 o filwyr, morwyr ac aelodau'r Llu Awyr yng Nghymru ac maen nhw a'u teuluoedd yn rhan bwysig o'n cymdeithas ni."
Ond dywedodd Ysgrifenyddes CND Cymru, Jill Gough, fod angen newid polisi.
"Rhaid i ni ddysgu ymddwyn yn wahanol er mwyn creu dyfodol iach a diogel ar gyfer ein plant ni," meddai.
Yr orymdaith yn gadael y castell
Dywedodd Raymond Westacott, 86 oed, oedd yn yr Awyrlu yn yr Ail Ryfel Byd: "Mae pawb sy'n gwylio heddi'n ddyledus i'r rhai sy ac a oedd yn y lluoedd arfog.
"Edrychwch o gwmpas. Mae oedran y rhai sy'n gwylio'n amrywio o chwech oed i 60 oed."
"Dyw rhai, wrth reswm, ddim yn cofio Caerdydd neu Llundain yn cael eu bomio.
"Mae rhywbeth fel hyn yn bwysig ... ddylen ni ddim anghofio'r gorffennol."
Am 10.30am roedd seremoni codi'r faner ym mhob cyngor yng Nghymru.
Y cyn Brif Weinidog, Gordon Brown, ddewisodd Caerdydd fel canolbwynt y dathliadau ar gyfer 2010.
Arddangosfeydd
Mae arddangosfeydd milwrol yn ystod y dydd a chyfle i'r cyhoedd ymweld â llong yr HMS Kent sydd wedi bwrw angor yn y bae dros y penwythnos.
Yn y nos bydd cyngerdd awyr agored yng nghwmni Only Men Aloud a'r Soldiers a thân gwyllt yn gloi'r noson.
Roedd mam milwr o Gymru gafodd ei ladd yn Afghanistan wedi annog y cyhoedd i gefnogi'r digwyddiadau.
Torfeydd yn gwylio'r orymdaith ym Mae Caerdydd
Bu farw'r Preifat Richard Hunt, 21 oed, y llynedd.
Dywedodd Hazel Hunt o'r Fenni y byddai cefnogaeth y cyhoedd yn "gysur mawr".
"Dwi eisie i bobol ddod i'r digwyddiadau a mwynhau'r diwrnod," meddai.
"Mae 'na ddigon o straeon negyddol wedi bod yn y wasg ...
"Does dim sôn am ofalu am y rhai sy'n cael eu hanafu ... does dim sôn y pethe positif sy'n cael 'i wneud."
Cefnogi teuluoedd
Mae rhieni Richard wedi sefydlu mudiad er cof amdano, mudiad sy'n cefnogi teuluoedd milwyr sy wedi cael eu hanafu.
Dywedodd Arglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd Keith Hyde, bod "Caerdydd yn falch iawn bod yn ganolbwynt Diwrnod Lluoedd Arfog 2010 ac mae disgwyl nifer fawr o aelodau'r cyhoedd i ymuno yn y dathliadau drwy gydol y dydd er mwyn dangos cefnogaeth i'r Lluoedd Arfog".
Mae cartre Trydydd Bataliwn Catrawd y Cymry Brenhinol yng Ngwersyll Maendy yn y ddinas.
Yn Nociau Chatham yng Nghaint yr oedd y prif ddigwyddiad Prydeinig y llynedd.
Mae'r diwrnod yn cymryd lle Diwrnod y Cyn-filwyr a'r nod yw cefnogi milwyr sy'n gwasanaethu ar hyn o bryd yn ogystal â chofio'r cyn-filwyr.
Fe ddywedodd Mr Brown y llynedd y dylai hwn fod yn "ddiwrnod o arbennig o ddathlu".
Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.