British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 25 Mehefin 2010, 12:12 GMT 13:12 UK
Tesco'n ailgyflwyno cais

Tesco
Cais blaenorol: Effaith ar ddiogelwch

Fe fydd cwmni Tesco yn ailgyflwyno cais cynllunio ar gyfer archfarchnad ym Mhowys ac yn tynnu eu cais cynllunio blaenorol yn ôl.

Roedd Llywodraeth y Cynulliad wedi dweud y dylid gwrthod y cais cynllunio ar gyfer safle ym Machynlleth oherwydd yr effaith ar ddiogelwch priffyrdd.

Dywedodd y cwmni y bydden nhw'n ailgyflwyno cais "yn wyneb sylwadau'r cyhoedd a swyddogion".

Y nod, meddai'r cwmni, yw creu 140 o swyddi llawn amser a rhan amser.

Cafodd y cais blaenorol ei gyfeirio i swyddogion Llywodraeth y Cynulliad oherwydd bod y safle ym Machynlleth wrth ymyl prif-ffordd.

Dywedodd Cyngor Powys: "Bydd hyn a materion cynllunio eraill yn cael eu hystyried gan y pwyllgor cynllunio'r wythnos nesaf.

Cysylltiadau addas

"Fe dynnodd Tesco'r cais yn ôl ddydd Mawrth.

"Roedd disgwyl i'r cais fynd gerbron pwyllgor cynllunio'r cyngor yr wythnos nesaf."

Dywedodd Llywodraeth y Cynulliad nad oedd Tesco wedi ystyried cysylltiadau addas ar gyfer cerddwyr a beicwyr rhwng y siop a chanol y dref.

Dywedodd Mark Thorne o'r cwmni: "Mae nifer eisiau gweld adfywiad yn y dre.

18 milltir

"Fe fyddai'n help i'r rhai sy'n gorfod teithio milltiroedd i siopa.

"Rydyn ni'n gresynu at yr oedi ond mae'n bwysig ein bod yn cyflwyno'r cais gorau posib."

Ar hyn o bryd rhaid i nifer o bobl deithio 18 milltir i'r archfarchnad yn Aberystwyth.

Eisoes mae gwrthwynebwyr, gan gynnwys y Siambr Fasnach, wedi dweud y gallai'r cynllun beryglu dyfodol y siopau annibynnol.



HEFYD
Ergyd i gynlluniau archfarchnad
24 Meh 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific