Wigley: 'Cyfle gwych i greu momentwm'
|
Mae Dafydd Wigley am i bobl Cymru a Phatagonia achub ar y cyfle i gryfhau'r berthynas rhwng y ddwy wlad wrth drefnu dathlu 150 mlynedd ers sefydlu'r Wladfa. Cyn Aelod Seneddol Caernarfon yw Cadeirydd Pwyllgor Llywio Cymdeithas Cymru-Ariannin. Dydd Sadwrn yn Bow Street ger Aberystwyth mae cyfarfod cyntaf y pwyllgor llywio. Dywedodd Mr Wigley ei fod yn benderfynol o sicrhau y byddai'r dathlu yn 2015 yn rhoi cymaint o hwb i'r cysylltiad ag y gwnaeth dathlu'r canmlwyddiant. "Mi fues i'n ffodus iawn cael mynd i'r Wladfa'n ddyn ifanc. "A bod yn onest roedd y cysylltiad wedi bod yn edwino ers y Rhyfel Mawr. "Er bod rhyw 5,000 o bobl yn dal i siarad Cymraeg ym Mhatagonia yn 1965 roedd y genhedlaeth honno wedi penderfynu peidio â throsglwyddo'r iaith i'w phlant. 'Ail wynt' "Wrth i ni lanio ar lain awyr ddi-darmac yn Nhrelew, roedd 4,000 o bobl yn disgwyl amdanon ni ... "Does dim amheuaeth bod dathliadau'r canmlwyddiant wedi rhoi ail wynt i'r Gymraeg yno ac wedi ail-danio'r diddordeb yn eu hetifeddiaeth Gymreig. "Mae ganddon ni gyfle gwych i greu momentwm a chryfhau'r cysylltiad rhwng Patagonia a Chymru yn ystod y pum mlynedd nesa wrth i ni gynllunio'r dathliadau yn 2015. "Ac mae'n allweddol bod y cenedlaethau i ddod yn y ddwy wlad yn cael eu haddysgu am hanes Y Wladfa".
Ymfudwyr i'r Wladfa ar fwrdd llong SS Oricha yn 1911
|
Un arall yn y cyfarfod ddydd Sadwrn yw Elvey MacDonald, Llywydd Anrhydeddus Cymdeithas Cymru-Ariannin. Fe anwyd Elvey yn Nhrelew ym 1941 i deulu o dras Gymreig a daeth i Gymru am y tro cyntaf yn 1965 fel rhan o ddathliadau'r canmlwyddiant. Mae wedi bod yn byw yng Nghymru ers 1968. "Dim ond chwech ohonon ni ddaeth draw i Gymru ac, yn amlwg, fe greodd y daith argraff fawr arna i. "Does dim amheuaeth i ymweliad y Cymry â Phatagonia greu argraff aruthrol ar ddisgynyddion Y Wladfa. "Mae traean o dir Ariannin ym Mhatagonia ac fe ddaeth yr Arlywydd Illia i'r dathliadau. "Fe roddodd hwb i hyder y boblogaeth y gallan nhw fod yn Archentwyr go iawn a dathlu eu hetifeddiaeth Gymraeg a Chymreig yr un pryd. "Mae'r cysylltiad rhwng Cymru a'r Wladfa wedi cryfhau dros y blynyddoedd diwethaf ac mae trefnu ar gyfer 2015 yn gyfle gwych i ni adeiladu ar hynny."
|