British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 25 Mehefin 2010, 12:53 GMT 13:53 UK
Pennaeth yn stopio menyw oedd yn gyrru 95mya

Ian Arundale
Roedd Mr Arundale ar ei ffordd i gyfarfod

Mae Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed Powys wedi stopio menyw oedd yn gyrru heibio iddo ar gyflymder o 95 milltir yr awr.

Dywedodd yr heddlu fod hyn wedi digwydd ar yr A40 ger Llandeilo pan oedd y prif gwnstabl ar ei ffordd i gyfarfod.

Yn gynharach yn yr wythnos roedd y fenyw gerbron Ynadon Caerfyrddin.

Cafodd hi ddirwy o £750, ei gorfodi i dalu costau o £100 a nodwyd chwe phwynt ar ei thrwydded.

Roedd y diffynnydd wedi pledio'n euog.

Dywedodd yr heddlu fod diogelwch "yn agos iawn" at galon y prif gwnstabl.

Roedd Ian Arundale, sy'n bennaeth ers mis Mehefin 2008, ar ei ffordd i gyfarfod yn Llandrindod.

"Mae diogelwch ffyrdd yn flaenoriaeth i'r heddlu, yn ôl y prif gwnstabl," meddai'r llefarydd.

"Mae mwyafrif y gyrwyr yn gyrru yn ddiogel ond weithiau mae angen cosbi mewn llys."



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific