British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 24 Mehefin 2010, 06:17 GMT 07:17 UK
Talu gyda cherdyn ar Bont Hafren erbyn yr Hydref

Ail Bont Hafren
Fe agorodd Ail Bont Hafren yn 1996

Fe fydd modd talu am groesi Pont Hafren gyda chardiau credyd a debyd erbyn pencampwriaeth Cwpan Ryder yng Nghasnewydd ym mis Hydref.

Dywedodd Is Ysgrifennydd Seneddol Trafnidiaeth Prydain, Norman Baker, yn San Steffan y bydd y ffyrdd newydd o dalu yn eu lle erbyn y digwyddiad a fydd yn dechrau ar Hydref 1.

Mae Aelod Seneddol Dwyrain Casnewydd, Jessica Morden, wedi croesawu'r addewid.

Ar hyn o bryd dim ond gydag arian y mae modd talu am groesi'r bont i Gymru.

"Mae talu'r doll yn ddrud, yn anghyfleus ac yn anhyblyg," meddai yn y ddadl.

"Mae'r ffaith mai dim ond gydag arian y mae modd talu ar hyn o bryd yn cael effaith ar yr ymwelwyr sy'n dod i Gymru am y tro cyntaf.

Dim mwy o DAW

"Mae'n rhaid iddyn nhw gael eu harwain yn ôl i'r gwasanaethau traffordd agosaf i gael arian."

Yn ystod y ddadl dywedodd Mr Baker hefyd nad oedd disgwyl i'r cynnydd yn y Dreth Ar Werth, gafodd ei gyhoeddi yn y gyllideb ddydd Mawrth, gael ei gyflwyno ar y tollau.

"Fe fyddwn ni'n croesawu hynny," ychwanegodd Ms Morden wrth BBC Cymru.

"Ond fe fyddai'n well ganddo ni petai'r pris yn cael ei rewi yn hytrach nag yn codi bob blwyddyn."

'Y doll ddrytaf'

Dywedodd bod cyfnod economaidd anodd yn wynebu pobl, gyda rhai teithwyr yn gorfod cwtogi ar eu horiau gwaith a phrisiau petrol yn cynyddu.

"Y doll dros Bont Hafren ydi'r doll ddrytaf yn y DU ar gyfer ceir, yn £5.50," meddai.

Dros y blynyddoedd mae 'na ymgyrchu wedi bod i allu talu gyda cherdyn.

Cwmni preifat sy'n gyfrifol am y pontydd ac fe fydd yn dychwelyd i feddiant y llywodraeth pan mae'r cwmni wedi casglu'r swm penodol o'r tollau.

Dywedodd Mr Baker y gallai'r bont gael ei roi yn nwylo'r llywodraeth erbyn 2017 wrth edrych ar yr enillion.



HEFYD
Galw am fwy o gamer‚u ar bontydd
11 Meh 10 |  Newyddion
Talu toll ‚ cherdyn 'yn debygol'
27 Ion 10 |  Newyddion
Cardiau plastig i dalu am dollau?
01 Ion 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific