British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 22 Mehefin 2010, 11:41 GMT 12:41 UK
Cyn brif weithredwr yn archwilydd newydd

Huw Vaughan Thomas
Mae Huw Vaughan Thomas yn barod i gymryd yr awenau

Fe fydd cyn brif weithredwr cynghorau Sir Ddinbych a Gwynedd yn olynu Jeremy Coleman fel Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Ar hyn o bryd Huw Vaughan Thomas yw Cadeirydd Cronfa'r Loetri Fawr yng Nghymru.

Bydd rhaid i Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad, Aelodau'r Cynulliad a'r Frenhines gymeradwyo'r enwebiad.

Swyddfa'r Archwilydd sy'n cadw golwg ar wario cyhoeddus yng Nghymru.

Dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol dros dro, Gillian Body: "Rydym yn estyn croeso cynnes i Huw Vaughan Thomas a byddwn yn gwneud popeth y gallwn i'w gefnogi wrth iddo arwain Swyddfa Archwilio Cymru mewn cyfnod heriol i'r sector cyhoeddus yng Nghymru."

O 1971 ymlaen roedd Mr Thomas yn dal swyddi yn yr Adran Gyflogaeth cyn dod yn Gyfarwyddwr Cymru yn 1988.

Yn 1991 fe gafodd ei benodi'n Brif Weithredwr Cyngor Gwynedd.

Yn 1995 fe ddaeth yn Brif Weithredwr Cyngor Sir Ddinbych.

Ers 2001 mae wedi dal swyddi yn y sector cyhoeddus ac wedi gweithio fel ymgynghorydd.

Fe ymddiswyddodd Jeremy Colman ym mis Chwefror.

Mae'r cyn Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi pledio'n ddieuog i 14 o gyhuddiadau o wneud neu o feddu ar ddelweddau anweddus o blant.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific