British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 18 Mehefin 2010, 05:45 GMT 06:45 UK
Cynllun yn 'creu swyddi o safon uchel'

Fferm wynt
'Hwb o £2.3 biliwn i'r economi leol'

Fe allai cynllun ynni newydd greu swyddi o safon uchel mewn ardal sy wedi colli miloedd o swyddi.

Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, sy'n lansio Ynys Ynni Môn yng Nghanolfan Sgiliau Adeiladau Coleg Menai yn Llangefni.

Nod y cynllun yw datblygu prosiectau cynhyrchu ynni ar yr ynys er mwyn creu gwaith a dod ag arian i'r economi.

Y cyngor sir sy'n cydlynu'r prosiect ond fe fydd partneriaid eraill, gan gynnwys rhai o'r sector preifat.

Mae astudiaeth wedi awgrymu y gallai miloedd o swyddi yn gyffredinol gael eu creu yn y diwydiant adeiladu a hyd at 2,500 o swyddi parhaol erbyn 2025.

'Potensial'

"Bydd y fframwaith yn creu cyfleoedd i Fôn elwa o amryw o gynlluniau ynni - gyda'r potensial o ddenu buddsoddiad newydd sylweddol i'r ynys a chreu swyddi o safon uchel," meddai Mr Jones.

Dywedodd arweinydd y cyngor sir, y Cynghorydd Clive McGregor, fod y lansiad yn "garreg filltir bwysig yn ein gweledigaeth ar gyfer yr Ynys Ynni".

"Mae lleoliad yr ynys, ei hadnoddau naturiol, a gweithlu lleol a rhanbarthol gyda'r sgiliau angenrheidiol yn golygu bod gan Fôn gyfle i ddatblygu'n ganolbwynt ar gyfer cynhyrchu ynni carbon isel."

Mae'r sir, meddai, yn gobeithio elwa ar y gwynt, môr, biomas yn ogystal â photensial codi gorsaf bŵer newydd yn Yr Wylfa ger Amlwch.

'5,000'

Dywedodd Cyfarwyddwr Rhaglen Ynys Ynni, Sasha Wynn Davies, fod astudiaeth ddiweddar wedi awgrymu y byddai modd denu £2.4 biliwn i Fôn a'r cyffiniau dros y 15 mlynedd nesaf.

"Ar y cyfan, mi all y gwaith adeiladu olygu hyd at 5,000 o swyddi - a miloedd o swyddi parhaol rhwng 2013 a 2025."

Dywedodd y cyngor eu bod eisoes yn paratoi ar gyfer y swyddi newydd wrth godi Canolfan Ynni a Gwneuthuriad ar gampws Coleg Menai yn Llangefni.



HEFYD
Llanw i greu ynni ym Môn?
24 Gorff 06 |  Newyddion
Ynni niwclear: y ddadl yn parhau
04 Mai 10 |  Gwleidyddiaeth
Atomfa i'r Wylfa erbyn 2020?
30 Maw 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific