British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 17 Mehefin 2010, 08:24 GMT 09:24 UK
Elw i'r Sioe Frenhinol er gwaetha glaw

Trefnwyr Y Sioe Frenhinol yn dweud eu bod wedi gwneud bron iawn i £390,000 o elw er gwaetha tywydd garw.

Yn ôl Cymdeithas Frenhinol Amaethyddol Cymru mae llwyddiant dau ddigwyddiad blynyddol arall ar y safle ym Mhowys wedi arwain at gyfanswm o dros £630,000 o elw.

Mae'r Gymdeithas yn gwario miloedd o bunnoedd yn datblygu maes y sioe ac fe fydd Neuadd Fwyd £1.7 miliwn yn agor ym mis Gorffennaf.

Bydd y Prif Gylch yn cael wyneb newydd ar ôl iddo gael ei ddifrodi gan y tywydd garw yn 2009.

Yn ôl y Gymdeithas, fe wnaeth Y Sioe Frenhinol, Y Ffair Aeaf a'r Ŵyl Tyddyn a Gardd, elw.

Maen nhw wedi addo "rhaglen lawn" o wariant ar y safle ac adnoddau er mwyn ehangu eu henw da "fel un o brif gymdeithasau amaethyddol mwya'r byd".

"Rydym yn un o'r prif ddigwyddiadau amaethyddol yn y byd gyda miloedd ar filoedd yn ymweld â Llanelwedd bob blwyddyn," ,meddai David Lewis, Cadeirydd Bwrdd Rheoli'r Gymdeithas.

"Os ydan ni am gynnal hyn, rhaid buddsoddi yn y maes, dyma'r prif ased.

"Mae'n bwysig bod elw, fel yn 2009, yn cael ei ail-fuddsoddi ar gyfer llwyddiant yn y dyfodol."

Ar ôl Sioe 2010 mae disgwyl y bydd pafiliwn newydd Mynwy ar gyfer aelodau yn cael ei adeiladu.



HEFYD
Cylch newydd i'r Sioe Fawr
19 Rhag 09 |  Newyddion
Sioe: Colled o £170,000
05 Meh 08 |  Newyddion
Sioe Fawr: 'Colled o £300,000'
12 Rhag 07 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific