British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 17 Mehefin 2010, 06:18 GMT 07:18 UK
£39 miliwn i adnewyddu pier

Pier Y Mwmbwls o'r awyr
Mae'r pier wedi bod yng ngofal teulu John Bollom ers y 1930au

Mae perchnogion Pier Y Mwmbwls wedi cyhoeddi cynllun gwerth £39 miliwn i'w ailddatblygu.

Bydd cwmni AMECO Ltd yn cynnal arddangosfa am ddeuddydd i ddangos eu cynlluniau ar gyfer y pier 112 oed i'r cyhoedd.

Bwriad y cwmni yw adnewyddu'r pier ei hun, adeiladu gwesty newydd, fflatiau, bwytai a chanolfan adloniant ar gyfer ymwelwyr.

Maen nhw hefyd wedi bod yn trafod gyda'r RNLI er mwyn sicrhau y gall y bad achub Tamar newydd, fydd yn barod yn 2015, gael ei lawnsio o'r pier.

Nid yw'r cynllun wedi cael caniatád cynllunio hyd yma ond bydd y cwmni teuluol yn gwneud y cais hwnnw ddiwedd mis Mehefin.

£500,000

Maen nhw wedi gwario £500,000 dros gyfnod o bum mlynedd yn datblygu'r cynlluniau.

Dywedodd Cyfarwyddwr Rheoli AMECO, John Bollom:

"Yn anffodus nid yw'r pier, sydd mewn dwylo preifat, yn gymwys i dderbyn cymorth ariannol o'r Gronfa Dreftadaeth.

"Rydym felly wedi creu cynllun effeithiol i adfywio'r pier a hyrwyddo twristiaeth ymhellach yn yr ardal.

"Mae'r ymateb i'n cynlluniau hyd yn hyn gan y cyhoedd a'r gwleidyddion lleol wedi bod yn hynod ffafriol."

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir a Dinas Abertawe, Chris Holley, bod y cynllun "yn bwysig i gynorthwyo'r ardal i allu cystadlu â chanolfannau twristiaeth gorau Ewrop" ac y byddai'r datblygiad yn "rhoi hwb amserol i swyddi'n lleol".

Mae Cwmni AMECO yn honni y bydd eu cynlluniau yn creu £18 miliwn i'r economi'n lleol yn flynyddol.

Gall aelodau o'r cyhoedd weld yr holl gynlluniau yng Ngwesty'r Pier rhwng 10.30am a 6.30pm ddydd Gwener a rhwng 9.30am a 1.30pm ddydd Sadwrn.



HEFYD
Casglu barn ar ddyfodol pier
21 Medi 08 |  Newyddion
Cynllun i adfywio bae Abertawe
22 Chwef 07 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific