British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 16 Mehefin 2010, 13:21 GMT 14:21 UK
Galw am oleuadau diogelwch

Sally Hudson
Bu Sally Hudson yn defnyddio'r groesfan ers 40 mlynedd

Mae ymchwiliad i farwolaeth pensiynwraig o Wynedd wedi dweud y gall goleuadau diogelwch leihau damweiniau ar groesfannau rheilffyrdd.

Bu farw Sally Hudson, 83 oed, ar Fedi 2 y llynedd pan drawyd ei char Fiat Punto ar groesfan ger ei chartref ym Mhenrhyndeudraeth.

Nodwyd bod ffôn ger y groesfan oedd fod i'w ddefnyddio er mwyn sicrhau ei bod hi'n ddiogel i groesi'r cledrau ond nad oedd y ffôn wedi ei ddefnyddio ers Awst 17 cyn i Mrs Hudson farw.

Gan fod Mrs Hudson wedi defnyddio'r groesfan bron bob diwrnod ers 40 mlynedd awgrymodd yr ymchwiliad ei bod hi o bosib yn "rhy gyfarwydd â defnyddio'r groesfan" ac iddi benderfynu "mentro croesi".

Wrth gyfaddef bod costau ac ambell anfantais ynghlwm â gosod goleuadau rhybuddio ger y groesfan, awgrymodd yr adroddiad y byddai datblygiad o'r fath yn "lleihau'r risg o ddamweiniau ym Mhenrhyndeudraeth".

Ymateb

Yn wreiddiol wedi'r ddamwain, gwrthododd Network Rail osod y goleuadau wedi iddyn nhw gynnal adolygiad iechyd a diogelwch eu hunain.

Beirniadwyd safon, manylder a chywirdeb yr adolygiad hwnnw yn adroddiad Cangen Ymchwilio Damweiniau Rheilffordd (RAIB).

Wrth ymateb i adroddiad yr RAIB dywedodd llefarydd ar ran Network Rail eu bod "wedi bod yn cydweithio'n agos iawn gyda RAIB ers y ddamwain er mwyn eu cynorthwyo wrth lunio'r adroddiad".

"Rydym hefyd wedi gwella'r arwyddion a'r rhybuddion ym Mhenrhyndeudraeth.

"Rydym yn croesawu adroddiad RAIB a byddwn yn adolygu eu hargymhellion."



HEFYD
Pryderon am groesfan rheilffordd
14 Ion 10 |  Newyddion
Damwain: Cyfaddef gyrru'n ddiofal
08 Meh 05 |  Newyddion
Lladd llanc ar reilffordd ger ei gartref
08 Mai 04 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific