British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 16 Mehefin 2010, 08:11 GMT 09:11 UK
Y Cymry sydd i'w derbyn i'r Orsedd 2010

Mae nifer o Gymry yn cael eu hurddo i Orsedd y Beirdd eleni yn Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a Blaenau'r Cymoedd eleni.

Dyma fanylion y rhai fydd yn cael eu derbyn er anrhydedd.

I'w hurddo fore Llun 2 Awst 2010:

Urddir ar gyfrif eu graddau yn cynnwys astudiaethau Cymraeg neu Gerddoriaeth:

Urdd Llenor

Mary Elizabeth Ann Davies, Aberaeron

Stephen Paul Davison, Rogerstone, Casnewydd

Mair Bebb Jones, Bangor

Llŷr Gwyn Lewis, Caernarfon

Carol Mair Thomas, Llanwnnen, Llanbedr Pont Steffan

Charles Wilson, Drayton, Norwich

Arholiadau'r Orsedd

Urdd Ieithydd (Gwisg Las): Mari Edwards (Mari o Nedd), Castell-nedd; Stuart Imm (Cerigle), Coedeva, Cwmbrân; Gillian Taylor Walker (Gill Caeron), Sarn Mellteyrn, Pwllheli;

Urdd Iaith Ofydd (Gwisg Werdd): David Gwynfor Samuel, Pant, Merthyr Tudful

Urdd Llên Ofydd (Gwisg Werdd): Caroline Margaret Jean Williams, Llangyndeyrn, Cydweli

Enillwyr Llwyfan Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru Caerdydd 2009

Lleucu Fflur Hughes - Enillydd y Goron

Enillwyr Llwyfan Eisteddfod Genedlaethol Meirion a'r Cyffiniau 2009

Urdd Ofydd er Anrhydedd

Trebor Lloyd Evans, Corwen, Sir Ddinbych - Enillydd Gwobr Goffa David Ellis

Trystan Llŷr Griffiths, Clunderwen, Sir Benfro - Enillydd Gwobr Goffa Osborne Roberts

Jocelyn Freeman, Tyddewi, Sir Benfro - Enillydd Rhuban Glas Offerynnol dros 19 oed

Gwydion Rhys, Clunderwen, Sir Benfro - Enillydd Gwobr Richard Burton

Meggan Lloyd Prys, Rhiwlas, Bangor, Gwynedd - Enillydd Dysgwr y Flwyddyn

Elin Williams, Cwm-ann, Ceredigion - Enillydd Gwobr Goffa Llwyd o'r Bryn

Menna Cazel Davies, Pontypridd - Enillydd Gwobr Goffa Osborne Roberts

Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd a'r Cylch 2008

Urdd Derwydd er Anrhydedd

Siân Melangell Dafydd, Y Bala - Enillydd y Fedal Ryddiaith

Elfyn Lewis, Caerdydd - Enillydd Medal Aur am Gelfyddyd Gain

Lowri Davies, Caerdydd - Enillydd Medal Aur am Grefft a Dylunio

Suzie Horan, Llantrisant - Enillydd Medal Aur am Grefft a Dylunio

Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd a'r Cylch 2008

I'w derbyn i Urdd Derwydd er anrhydedd ar gyfrif gwasanaeth maith ac arbennig i'r Orsedd a'r Eisteddfod:

Eric Jones (Moelfryn), Pontarddulais

Rhys Jones (Rhys), Prestatyn

Rhian Medi Roberts (Rhian Medi), Llundain

Huw Williams (Huw Postman), Bwlchtocyn

I'w hurddo fore Gwener 6 Awst 2010 :

Urdd Ofydd er Anrhydedd ( Y Wisg Werdd)

Eirlys Mair Bebb

Ganwyd a'i magwyd yn Bethnal Green yn Nwyrain Llundain, lle y bu ei theulu ym myd busnes. Dilynodd hithau yrfa ym myd addysg cyn ymddeol yn gynnar a mynd i weithio i Fwrdd Croeso Cymru yn Piccadilly. Mae ei chyfraniad i fywyd Cymraeg Llundain yn enfawr trwy'r Capel, Yr Ysgol Gymraeg, Y Cymrodorion a Chymdeithas Cymry Llundain.

Dylan Cernyw

Enw cyfarwydd i garedigion yr Eisteddfod Genedlaethol a ddaw o Fae Colwyn. Mae'n delynor dawnus, yn athro teithiol ac yn aml ei gymwynasau i Eisteddfodau mawr a bach. Y mae ei gyfraniad i'w genedl yn amlwg trwy ei waith gyda'r Eisteddfod Genedlaethol ac Ysgol Glanaethwy. Bu hefyd yn gefnogol iawn i'r Ŵyl Ban Geltaidd ers yr 80au.

Robert Hughes

Mae hanes y gŵr hwn o Dreharris yn un hynod dros ben. Dechreuodd ddysgu'r Gymraeg yn 1997 a daeth yn siaradwr rhugl ymhen byr o dro. Yn wir, daeth y Gymraeg yn rhan annatod o'i fywyd. Erbyn hyn, mae'n gonglfaen ffyniant y Gymraeg yn ei gymdeithas ym mhentref Beddllwynog, trwy sefydlu dosbarthiadau Cymraeg i Oedolion, ac addysgu tua 50 o bobl bob wythnos. Sefydlodd hefyd lyfrgell Gymraeg yn y pentref. Mae yn awr yn ymwneud â phrosiect i ddatblygu hen gapel Beddllwynog yn Ganolfan Cymraeg.

David Bryan James

Un a roddodd oes o wasanaeth diflino i'w famiaith a'i buddiannau. Mae'n byw yng Nghaerdydd ond yn frodor o Alltwalis yn Sir Gâr. Bu'n Ddirprwy Gyfarwyddwr Uned Iaith Genedlaethol Cymru, yn Bennaeth Ysgol Gyfun Rhydfelen ac yn weithgar fel Prif Arholwr Cymraeg fel Ail Iaith dros Gyd-bwyllgor Addysg Cymru. Mae'n bleser gan yr Orsedd hefyd gydnabod ei gyfraniad i'r Urdd dros y blynyddoedd ac i fywyd Cymraeg Caerdydd.

Ela Jones

Rhoddodd y wraig yma o Ysbyty Ifan wasanaeth arbennig i'r Orsedd fel gwniadwraig, cynllunydd a gwneuthurwraig. Sefydlodd Gwmni Cwlwm i gefnogi'r economi leol a'r diwylliant Cymreig, trwy gynnig Gwasanaeth Priodas Gymreig. Ela Jones yw'r unig hetiwr Cymreig yng Nghymru a Phrydain. Ar ben hyn i gyd, mae'n hynod o weithgar yn y gymuned leol, yn arbennig trwy iddi ail-agor Swyddfa Bost y pentref, er budd i'r gymdeithas gyfan.

David Ryan Lee

Un arall a roddodd wasanaeth arbennig i'w fro yw David Ryan Lee o Borth Tywyn a fu'n brifathro Ysgol Gynradd Pontarddulais hyd ei ymddeoliad yn 1997. Yn ogystal â hynny, mae wedi cyflawni 30 mlynedd o wasanaeth i Gymdeithas Opera Porth Tywyn fel Arweinydd y Corws i ddechrau, ac yna o 1981, fel Cyfarwyddwr Cerdd y cwmni. Mae'n arwain Cymanfaoedd a Chyngherddau ac yn sylfaenydd "Noson Garolau yn y Gymuned" sy'n ddigwyddiad blynyddol erbyn hyn ym Mhorth Tywyn.

Edith McDonald

Cefnogodd y wraig o Chubut, Y Wladfa, pob achos Cymraeg a Chymreig yn y Wladfa ar hyd y blynyddoedd a bu'n aelod o bwyllgorau sefydliadau megis Cymdeithas Dewi Sant ac Eisteddfod y Wladfa. Adnabyddir hi yng ngorsedd y Wladfa fel 'Edith Bryn Alaw. Anrhydeddir hi eleni drwy gael ei gwahodd i fod yn Arweinydd y Cymry Tramor yn Eisteddfod Blaenau Gwent a Blaenau'r Cymoedd yng Nglyn Ebwy.

Mel Morgans

Disgrifir Mel Morgans, Rhydaman fel "dyn prysur - a Chymro i'r carn" a hawdd gweld pam wrth ystyried ei gyfraniad i ddiwylliant ei fro. Bu'n ymwneud ag Aelwyd Aman am flynyddoedd fel Arweinydd ac yna fel ymddiriedolwr, yn aelod o Fenter Iaith Sir Gaerfyrddin ac yn hynod o weithgar fel actor a chyfarwyddwr Cwmni Drama'r Gwter Fawr. Yn ogystal â hyn i gyd, mae'n aelod o Gorff Llywodraethol Ysgol Gynradd Brynaman ac yn Gadeirydd y Papur Bro, Glo Mân.

Mair Roberts

Cafodd hyfforddiant yn Ysgol Gerdd y Guildhall ac Ysgol Lwyfan Italia Conte. Dychwelodd i Bendeulwyn yn 1966 i weithio ym myd y teledu. Yn 1970 ffurfiodd grŵp o gantorion a ddatblygodd maes o law i fod yn gôr Cantorion Creigiau. Eleni bydd y côr yn dathlu 40 mlynedd ers ei sefydlu, a Mair sydd wedi arwain y côr gydol y cyfnod hwn. Mae ei chyfraniad fel beirniad ac unawdydd ar lwyfannau cenedlaethol a rhyngwladol yn arwydd o'r parch sydd iddi fel cerddor amryddawn.

Gethin Thomas

Pennaeth Ysgol Gymraeg Dewi Sant, Llanelli. Mae cyfraniad y gŵr o Gross Hands yn ymestyn y tu allan i ffiniau'r ysgol honno. Bu'n weithgar dros y blynyddoedd gyda mudiad y Ffermwyr Ieuanc yn lleol ac yn sirol. Ar hyn o bryd, ef yw Cadeirydd Menter Iaith Cwm Gwendraeth. Ef hefyd oedd Is-Gadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod genedlaethol yr Urdd yn Sir Gâr yn 2007. Mae'n Arweinydd cyson mewn Eisteddfodau a Nosweithiau Llawen ac yn gyfrannwr i raglenni radio a theledu.

Ion Dafydd Thomas

Un o dref Caerfyrddin yw'n wreiddiol sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd. Graddiodd gydag anrhydedd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor cyn cael ei benodi i swydd dysgu yng Nghwm Tawe. Yn dilyn cyfnod yn dysgu yn Ysgol Pantycelyn, fe'i penodwyd yn Bennaeth Adran y Gymraeg yn Ysgol Gwynllyw Pont-y-pŵl. Mae'n llais cyfarwydd i'r rhai sy'n gwylio gemau pêl-droed yn Stadiwm y Mileniwm gan mai ef yw'r cyhoeddwr swyddogol. Bu'n weithgar iawn gydag amryw o bwyllgorau Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd a Chaerdydd.

Melfyn Richard Williams

Awdur toreithiog ym myd llyfrau gwyddoniaeth i blant a meysydd llafur yw'r gŵr yma o Lanuwchllyn. Bu'n athro gwyddoniaeth yn Ysgol y Gader, Dolgellau am flynyddoedd lawer ac yn arloeswr yn yr ymgyrch i sefydlu addysg trwy gyfrwng y Gymraeg. Cyhoeddodd dros 30 o lyfrau Cymraeg yn ymwneud â thestunau gwyddonol i blant. Mae'n hynod o weithgar yn ei ardal leol fel darlithydd ac ym myd y ddrama. Ef yw Swyddog Gweithredol Cymdeithas Bob Owen ac mae'n olygydd a chysodwr Y Casglwr, Cylchgrawn y Gymdeithas, ers 1997.

Urdd Derwydd er Anrhydedd

Jill Evans

Hyfrydwch arbennig yw cael anrhydeddu Jill Evans, Lwynypia, i'w hurddo'n aelod o Orsedd y Beirdd. Gwneir hynny'n arbennig oherwydd ei chyfraniad nodedig, yn hyrwyddo'r iaith Gymraeg ac achos Cymru yn Ewrop. Ganed Jill Evans yn Ystrad, Cwm Rhondda. Wedi ymserchu yn y Gymraeg, yn Ysgol Ramadeg Tonypandy, lle y dysgodd hi'r iaith, graddiodd mewn Cymraeg ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth. Derbyniodd M Phil gan Gyn-Bolytechnig Pontypridd am draethawd ar gynllun arholi i oedolion sy'n dysgu'r Gymraeg. Yn 1999 fe'i hetholwyd i Senedd Ewrop fel aelod dros Plaid Cymru. Gwyddom am ei gwaith yn ceisio sicrhau heddwch a chyfiawnder yn Ewrop a'r byd. Yn 2005, hi oedd y person cyntaf i annerch Senedd Ewrop yn Gymraeg.

Tim Rhys-Evans

Er ei fod yn byw yng Nghaerdydd cafodd ei eni yn Nhredegar Newydd sydd o fewn dalgylch yr Eisteddfod eleni. Daeth i'r amlwg fel Cyfarwyddwr Cerdd Côr Only Men Aloud yn dilyn llwyddiant y côr hwnnw yng nghystadleuaeth Last Choir Standing ar BBC 1 trwy Brydain. Maent bellach yn perfformio ar draws y byd ac wedi rhyddhau sawl cryno ddisg gan gyrraedd rhif un yn siartiau clasurol Prydain. Bu Tim hefyd yn Arweinydd Côr Serendipity ac fe enillodd y côr hwnnw gystadleuaeth Côr Cymru yn 2005. Erbyn hyn, mae wedi meistroli'r iaith Gymraeg a bu'n un o feirniaid corawl yr Eisteddfod yn Yr Wyddgrug yn 2007.

Ann Fychan

Yn wreiddiol o Lanbrynmair mae hi bellach yn byw yn Abercegir ger Machynlleth. Mae Ann yn un o bileri'r gymdeithas, yn hyfforddi plant a phobl ifanc i lefaru mewn Eisteddfodau mawr a bach ac yn ymwneud â phob agwedd o fywyd diwylliannol ei bro. Mae'n aelod o bwyllgor llefaru cenedlaethol yr Urdd ac o Gyngor Llefaru yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae'n llais cyfarwydd ar raglen Talwrn y Beirdd Radio Cymru, fel aelod o dîm llwyddiannus Bro Ddyfi.

Ian Lloyd Hughes

Fel 'dyn y pethe yn ei fro', y caiff y gŵr sy'n byw yn Y Bala ei ddisgrifio er ei fod yn wreiddiol o Gaernarfon. Mae'n gyn-bennaeth Ysgol Ffridd y Llyn, yn rhoi o'i amser i hyfforddi plant a phobl ifanc i lefaru, yn feirniad cenedlaethol ac yn arweinydd eisteddfodau. Bu'n ysgrifennydd Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith: Meirionnydd 1997 a 2009, yn ogystal â bod yn Gadeirydd Pwyllgor y Celfyddydau Gweledol. Bu'n cynnal adran bentref yr Urdd am flynyddoedd maith.

Angharad Mair

Mae hi'n byw yn Llanbedr-y-Fro ac yn wyneb a llais cyfarwydd i wylwyr teledu Cymraeg. Dechreuodd ei gyrfa gyda'r BBC, lle y bu'n cyflwyno'r rhaglen 'Bilidowcar' cyn symud i'r Adran Newyddion. Ym 1990 symudodd i weithio i Gwmni Agenda lle bu'n cyflwyno'r rhaglen 'Heno'. Ers sawl blwyddyn bellach, mae Angharad yn un o Gyfarwyddwyr cwmni Tinopolis ac mae hi i'w gweld yn aml ar raglen 'Wedi 7'. Yn ogystal â bod yn un o sêr y byd teledu, mae hi'n redwraig o frig a hi oedd yr unig siaradwr Cymraeg i gynrychioli Prydain ym Mhencampwriaethau Athletau y Byd yn Athen yn 1997.

Dewi Pws Morris

Enw sy'n dod a gwên i'r wyneb yw Dewi Pws Morris, Tresaith. Fe'i ganed yn Nhreboeth, Abertawe, a daeth yn gyntaf i sylw Cymru gyfan wrth gymryd rhan yng ngweithgareddau Aelwyd yr Urdd Treforys. Bu'n aelod o sawl grŵp pop, gan gynnwys Y Tebot Piws ac yna Edward H. Dafis. Mae'n actor, bardd a chomedïwr, ac enillodd wobr y cyflwynydd gorau am ei raglen 'Byd Pws' gan y Royal Television Society yn 2003. Mae cyfraniad Dewi Pws i'w genedl yn amlwg i bawb. Mae'n un o'r bobl brin hynny sy'n llwyddo i wneud i ni chwerthin yn iach a mwynhau ein Cymreictod.

Edwin Regan

Esgob Catholig Wrecsam. Fe'i ganed ym Mhorth Talbot a bu'n fyfyriwr ar gyfer yr offeiriadaeth yn Seminari S. Ioan, Waterford, yn Iwerddon. Wrth ymateb i'r galw i allu addoli yn Gymraeg yn y De, dechreuodd ddathlu'r offeren yn Gymraeg yn eglwys Sant Cadog yn y Bont-faen, a hynny bellach 38 mlynedd yn ôl. Mae'r Esgob Regan yn cadeirio nifer o bwyllgorau Cynhadledd Esgobion Catholig Cymru a Lloegr. Yn 2009, dathlodd hanner can mlynedd yn yr offeiriadaeth.

Geraint Roberts

Enw cyfarwydd arall i garedigion yr Eisteddfod yw Geraint Roberts, Prestatyn. Graddiodd yng Ngholeg Cerdd Llundain cyn dilyn gyrfa ym myd addysg. Yn gyn-bennaeth adran gerdd Ysgol Uwchradd Emrys ap Iwan Abergele, fe'i penodwyd yn Ddirprwy Bennaeth yr ysgol beth amser yn ôl. Yn ogystal â bod yn organydd o fri, mae'n Arwain Côr Trelawnyd ers naw mlynedd ar hugain, yn feirniad cenedlaethol ac yn arweinydd Cymanfaoedd. Yn aelod o Banel Sefydlog Cerdd yr Eisteddfod Genedlaethol, mae ei gyfraniad a'i ffyddlondeb i'r Eisteddfod yn arbennig iawn.

Eurwyn Wiliam

O Fynytho ym Mhen Llŷn y daw'n wreiddiol er ei fod yn byw bellach yng Nghaerdydd. Mynychodd Brifysgol Cymru Caerdydd, gan ennill gradd dosbarth 1af mewn Archaeoleg. Enillodd doethuriaeth am astudiaeth o adeiladau fferm yng Ngogledd-ddwyrain Cymru. Bu'n Guradur Amgueddfa Werin Cymru ac yna'n Is-Gyfarwyddwr Amgueddfa Cymru cyn ymddeol yn 2009. Bu yn allweddol yn trawsnewid yr Amgueddfa Werin yn amgueddfa gyfoes, berthnasol i fywyd Cymru gyfan. Cyhoeddodd nifer o lyfrau pwysig yn ymwneud ag adeiladau hynod Cymru.

Mary Wiliam

Ganwyd Mary Wiliam, yn Nhredegar, sy'n ei gwneud hi'n un o ferched bro'r Eisteddfod Genedlaethol eleni. Dysgodd Gymraeg, gan ennill gradd dosbarth cyntaf yn yr iaith yng Ngholeg Prifysgol Cymru Caerdydd. Fe'i hapwyntiwyd yn ymchwilydd yn Adran y Tafodieithoedd a Thraddodiadau Llafar yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan. Enillodd radd MA am draethawd ar iaith lafar ardal Tafarnau Bach, Sir Fynwy. Cyhoeddodd nifer o gyfrolau ar ddywediadau a diwylliant materol ac mae hi hefyd yn ddarlithydd poblogaidd dros ben.




Tudur Hallam Cadair Tudur
Tudur Hallam enillodd Gadair y Brifwyl

GWEFANNAU



Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific