British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 15 Mehefin 2010, 12:16 GMT 13:16 UK
'Ergyd fawr i'r diwydiant teledu'

Erygyd i'r diwydiant teledu

Mae cwmni Barcud Derwen wedi cael ei roi yn nwylo'r gweinyddwyr.

Fe fydd 35 o swyddi yn cael eu colli gan gwmni Barcud yng Nghaernarfon.

Yn y cyfamser, dywedodd cwmni teledu Antena, sydd hefyd â swyddfeydd ar Stad Cibyn yn y dre, fod rhybuddion diswyddo wedi eu rhoi i 25 aelod o staff.

Mae'r cwmni'n cyflogi cyfanswm o 55.

Dywedodd Aelod Seneddol Arfon, Hywel Williams, ei fod yn poeni'n fawr am golli'r swyddi.

Eisoes mae wedi anfon cwestiynau ysgrifenedig i'r Adran Cyfryngau, Diwylliant a Chwaraeon a'r Ysgrifennydd Gwladol am yr angen i gefnogi'r diwydiant y y dyfodol.

'Cyfrannu'n fawr'

"Mae'r ddau gwmni wedi cyfrannu'n fawr at ddatblygiad teledu yng Nghymru.

"Yn sicr, mae hon yn ergyd fawr i'r diwydiant yn y gogledd a dwi'n ofni y bydd rhaid i bobl ddawnus symud o Gaernarfon a'r gogledd."

Dywedodd y dylai'r cyflogwyr dalu arian sy'n ddyledus i'r gweithwyr.

Fe gafodd y prif gwmni, Barcud Derwen - sy â chwmniau cyfryngau yng Nghaerdydd, Bryste a Glasgow - ei roi yn nwylo'r gweinyddwyr brynhawn Llun.

Clywodd staff Barcud yng Nghaernarfon mewn cyfarfod staff ddydd Mawrth eu bod yn colli eu gwaith yn syth.

Doedd neb o'r cwmni ar gael i roi sylw ac fe gyfeiriwyd ymholiadau i'r gweinyddwyr, Grant Thornton.

Trafferthion

Daeth trafferthion ariannol y grŵp i'r amlwg ym mis Mai a nhw ydi'r cwmni adnoddau teledu mwya y tu allan i Lundain.

Maen nhw'n darlledu trafodaethau'r Cynulliad ym Mae Caerdydd ond cwmni Bow Tie sy wedi ennill y cytundeb newydd.

Ymateb i gyhoeddiad Barcud ac Antena

Wrth adael eu gwaith ddydd Mawrth roedd y gweithwyr yn siomedig nad oedd 'na ddiswyddiadau mewn rhannau eraill o'r cwmni.

"Mae'n mynd i fod yn siom i ni gyd, ond dydan ni ddim yn gwybod pam," meddai un gweithiwr.

"Da ni i'w weld yn brysur ond maen nhw wedi penderfynu hyn oherwydd dyledion y grŵp tynnu'r plwg."

Dywedodd S4C: "Does gennym ni ddim sylw i'w wneud ... ond byddwn yn sicrhau na fydd unrhyw rwystr ar y gwasanaeth i'n gwylwyr."

Diwedd Uned 5

Mae disgwyl mwy o fanylion gan y gweinyddwyr o fewn y dyddiau nesa ynglŷn â dyfodol y cwmnïau eraill sy'n dod o dan fantell Barcud Derwen.

Uned 5
Fe ddaeth rhaglen Uned 5 i ben ym mis Mai

Cwmni Barcud oedd i fod i ddarparu cryn dipyn o adnoddau ar gyfer darllediadau o'r Eisteddfod Genedlaethol a nifer o ddigwyddiadau mawr eraill dros yr haf.

Cwmni Antena oedd yn cynhyrchu rhaglen Uned 5 ddaeth i ben ym mis Mai.

Dywedodd un o gyfarwyddwyr y cwmni, Iestyn Garlick, fod y penderfyniad i ddiswyddo staff oherwydd bod y rhaglen wedi dod i ben.

"Tua chwe mis yn ôl fe gyhoeddodd S4C y byddai Uned 5 yn dod i ben a'u bod yn mynd i ddechrau gwasanaeth newydd ar gyfer pobl ifanc dros 13 oed," meddai.

Ddim yn cynnal

"Mae Antena wedi cael mwy o waith fel rhan o'r gwasanaeth hwn ond dydi'r rhaglen newydd ddim yn dechrau tan fis Ionawr 2011.

"Tan hynny mae'n gadael twll."

Ni fyddai'r cytundeb newydd, meddai, yn cynnal yr un lefel o staff.

"Rydym wedi ceisio cadw cymaint o staff technegol a chynhyrchu â phosib gan ein bod wedi buddsoddi yn fawr yn ddiweddar mewn technoleg newydd," meddai Mr Garlick.

"Fe fyddwn ni'n chwilio am gytundebau newydd gyda S4C, BBC ac ITV.

"Yn y cyfamser, fe fyddwn yn parhau gyda'n gwaith corfforaethol a'r adran dylunio gwe."

Yn ôl eu gwefan, mae Antena yn arbenigo mewn rhaglenni i'r ifanc ac adloniant ysgafn i S4C, BBC Cymru ac ITV Cymru.

Cafodd y cwmni ei sefydlu yn 1988 o dan yr enw Dime Goch ac mae wedi tyfu'n sylweddol ers hynny.

Mae'r adrannau corfforaethol a dylunio gwefannau wedi bod yn gryn lwyddiant, meddai'r cwmni.



HEFYD
'Pob help' er mwyn achub swyddi
10 Meh 10 |  Newyddion
Chwilio am brynwr i gwmni adnoddau
24 Mai 10 |  Newyddion
Cytundeb newydd i gwmni teledu
12 Mai 10 |  Newyddion
Diwedd y daith i Uned 5
27 Tach 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific