British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sul, 13 Mehefin 2010, 09:48 GMT 10:48 UK
Achub dynes 72 oed o'r môr

Ynys Sili, Llun: John Parker
Mae'r ynys tua 450 metr o'r tir mawr

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw ddydd Sadwrn i achub dynes 72 oed o'r môr wrth iddi geisio croesi i ynys fechan oddi ar arfordir Bro Morgannwg.

Aed â'r ddynes i ysbyty ar ôl iddi anafu ei ffêr wrth geisio cerdded yn y dŵr wrth i'r llanw ddod mewn.

Roedd hi ymhlith grwp o bobl oedd yn ceisio croesi i Ynys Sili.

Cafodd hofrennydd a chriw bad achub eu galw gan wylwyr y glannau Abertawe bnawn Sadwrn.

Roedd y grwp wedi llwyddo i gyrraedd y lan cyn i'r gwasanaethau gyrraedd.

"Roedd nifer o bobl wedi ffonio 999 ac yn sôn am ddynes oedd mewn peryg o gael ei ysgubo gan y llanw," meddai Bernie Kemble, rheolwr gyda Gwylwyr y Glannau.

Dywedodd ei bod yn bwysig fod pobl yn cymryd sylw o arwyddion rhybudd.

"Mae yna arwyddion yn rhybuddio pobl o'r peryglon o geisio croesi i'r ynys..

"Mae'n bwysig fod pobl yn darllen rhybuddion sy'n son am amseroedd y llanw a'r adegau sy'n ddiogel i groesi."

Mae ynys Sili tua 450 metr (490 llathen) o'r tir mawr, tua hanner ffordd rhwng trefi Penarth a'r Barri.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific