Cafodd y caffi ei agor ym Mehefin 2009
|
Flwyddyn ar ôl ei agoriad swyddogol mae caffi ucha Cymru wedi derbyn gwobrau a chanmoliaeth am ei adeiladwaith. Bydd Hafod Eryri yn derbyn gwobr 'Prosiect y Flwyddyn' gan Sefydlaid Brenhinol o Gyfrifwyr Siartredig Cymru. Mae'r caffi ar ben Yr Wyddfa hefyd wedi derbyn canmoliaeth uchel am ansawdd gan Sefydliad Brenhinol o Benseiri Prydeinig (RIBA). Dywedodd Pierre Wassenaar, llywydd cangen Cymru o'r RIBA, y dewiswyd Hafod Eryri yn rhannol oherwydd "y sialens enfawr oedd ynghlwm â'i adeiladu." "Mae'n orchest anferth," meddai. "Mi fyddai'n ddigon anodd ei adeiladu ar lefel y ddaear - sef beth wnaethon nhw mewn gwirionedd, cyn ei ddatgymalu a'i gyrchu i fyny'r mynydd - ac felly o safbwynt ymdrech, mae'n haeddu clod." Parc Cenedlaethol Eryri yw perchnogion yr adeilad £8.5 miliwn. Dywedodd Prif Weithredwr Awdurdod y Parc, Aneurin Phillips, mai'r nod o'r cychwyn oedd codi adeilad y "byddai Cymru gyfan yno falch ohono."
Mae dros 60% o'r deunydd adeiladu o Gymru
|
"Ers agor Hafod Eryri, mae'r ymateb yr ydym wedi ei dderbyn gan y cyhoedd wedi bod yn anhygoel. "Bu bron i 500,00 o bobl yn ymweld â'r mynydd rhwng canol Mehefin a diwedd Hydref y llynedd - cynnydd o 27% ers y flwyddyn flaenorol." Cynlluniwyd Hafod Eryri gan y pensaer Ray Hole i wrthsefyll tywydd eithafol iawn ar y copa, o wyntoedd yn chwythu hyd at 150 mya, dros 5m o law bob blwyddyn a thymheredd o -20°C. Daeth dros 60% o'r deunydd adeiladau o Gymru gan gynnwys ithfaen o Flaenau Ffestiniog ar gyfer y waliau a derw Cymreig ar du mewn yr adeilad. Fe wnaeth y gwaith o ddymchwel ac adeiladu gymryd bron i dair blynedd. Cafodd yr hen gaffi ei ddisgrifio fel slym ucha Cymru gan y Tywysog Charles.
|