British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 11 Mehefin 2010, 17:45 GMT 18:45 UK
Hufenfa yn y fantol?

Gweithwyr hufenfa
Mae'r safle yn cyflogi 140

Mae yna ddyfalu bod hufenfa Rachel's Organic yn Aberystwyth ar werth.

Fe wnaeth y perchnogion cwmni, Dean Foods o'r Unol Daleithiau, gyhoeddi datganiad yn dilyn straeon yn y wasg.

Doedd dim cadarnhad fod y safle ar werth ond maen nhw'n dweud eu bod yn ystyried gwahanol opsiynau.

Mae'r safle yn cyflogi 140 o weithwyr.

"Bob diwrnod mae yna sgyrsiau a sibrydion yn y farchnad ynglŷn â gwahanol gwmniau," meddai llefarydd ar ran Dean Foods.

"Mae hyn yn gallu arwain at straeon a sibrydion.

"Rydym wedi penderfynu pieido â chymryd rhan yn y fath sgyrsiau."

Ychwanegodd y llefarydd y byddai'n amhriodol gwneud unrhyw sylw pellach.

Rachel's Organic yw un o gyflogwyr mwayf Aberystwyth yn y sector breifat.

Cafodd y cwmni ei sefydlu ar fferm Brynllys yn ardal Y Borth.

Gwerthu

Fe ddechreuodd Gareth a Rachel Rowlands gynhyrchu cynnyrch organic yn yr 80au.

Symudodd y cwmni i ffatri yn Aberystwyth, a chafodd ei werthu i gwmni Horizon yn 1999.

Yn ddiweddarach cafodd ei werthu i gwmni Dean Foods, o Dallas, Texas.

Mae'r aelod cynulliad lleol, Elin Jones, wedi dweud na ddylai'r gwaith symud o'r ardal.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific