British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 11 Mehefin 2010, 13:29 GMT 14:29 UK
Llywodraeth yn gohirio difa moch daear

Mochyn Daear
Mae Ymddiriedolaeth Moch Daear yn ceisio atal y cynllun difa

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig wedi dweud y bydd y Llywodraeth yn oedi cyn dechrau difa moch daear yn y gorllewin.

Fe fydd rhaid aros tan ddiwedd y mis ar ôl i'r Ymddiriedolaeth Moch Daear herio penderfyniad yr Uchel Lys i wrthod eu cais am adolygiad barnwrol.

Mae rhai yn erbyn y cynllun wedi dweud nad oes digon o gyfiawnhad gwyddonol.

Y bwriad yw difa yng ngogledd Penfro, rhannau o Sir Gaerfyrddin a Cheredigion.

'Siomedig'

Gobaith Llywodraeth y Cynulliad yw difa 1,500 o foch daear dros gyfnod o bum mlynedd.

Bydd gwartheg yn ardal y cynllun peilot yn cael eu profi'n aml am olion o'r diciâu.

"Rydw i'n siomedig bod yr ymddiriedolaeth wedi apelio," meddai'r gweinidog, Elin Jones.

"Ar y dechrau, roedden ni'n deall y byddai'r gwrandawiad rhwng mis Tachwedd a mis Chwefror.

"Fodd bynnag, fe ddaeth i'r amlwg brynhawn Mercher bod y Llys Apêl wedi cytuno i gynnal gwrandawiad yn gynt na'r disgwyl ar Fehefin 30."

'Yn fuan'

Dywedodd fod mesurau rheoli gwartheg llym mewn grym yn yr ardal dan sylw.

"Oherwydd y bydd y gwrandawiad yn fuan iawn rydw i'n gallu dweud na fydd moch daear yn cael eu difa nes clywed y dyfarniad.

"Rydw i'n rhagweld dyfarniad cadarnhaol i Lywodraeth Cynulliad Cymru."

Mae'r llywodraeth wedi dweud bod rhaid dileu diciâu mewn gwartheg.

Dywedon nhw fod y diciâu "allan o reolaeth" a bod y clefyd yn costio bron £24 miliwn o iawndal i ffermwyr y llynedd a chyfanswm o £100 miliwn dros gyfnod o 10 mlynedd.



HEFYD
Moch daear: Hawl i apelio
09 Meh 10 |  Newyddion
Cynllun difa yn 'creu tensiynau'
01 Meh 10 |  Newyddion
Difa moch daear: Uchel Lys
23 Maw 10 |  Newyddion
Cynllun difa: Abwyd arbennig
11 Ebr 10 |  Newyddion
Dechrau cynllun difa moch daear
13 Ion 10 |  Newyddion
Pwerau i ddifa moch daear yn fuan
21 Gorff 09 |  Newyddion
Diciu: Ffermwyr 'yn ddig'
30 Medi 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific