British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 10 Mehefin 2010, 18:30 GMT 19:30 UK
'Pob cymorth posib' i gwmni adnoddau Barcud Derwen

Stiwdio Barcud, Caernarfon
Stiwdio Barcud ar Stad Cibyn yng Nghaernarfon

Mae Llywodraeth y Cynulliad yn dweud eu bod nhw yn cynnig pob cymorth posib i gwmni adnoddau teledu mwyaf Cymru er mwyn achub swyddi.

Ar hyn o bryd mae cwmni Barcud Derwen yn wynebu problemau ariannol ac mae BBC Cymru yn deall bod rhaid i'r cwmni ddod o hyd i brynwr erbyn dydd Llun.

Fe gafodd ei sefydlu yn 1997 wrth i'r ddau gwmni gyfuno a chreu'r cwmni adnoddau teledu mwyaf ym Mhrydain tu allan i ardal Llundain.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Cynulliad eu bod yn ymwybodol o'r sefyllfa ac "yn cynnig pob cymorth posib er mwyn gallu diogelu swyddi".

Mae memo wedi ei anfon i staff yn dweud eu bod yn ffyddiog y bydd prynwr yn cael ei ganfod erbyn yr wythnos nesaf.

Bellach mae'r cwmni yn cynnwys 11 o adrannau ac mae ganddo ganolfannau yn Iwerddon, Yr Alban a Lloegr yn ogystal â rhai yng Nghaerdydd a Chaernarfon.

Mae gan y cwmni stiwdio ac adnoddau darlledu a ffilmio ar Stad Cibyn yng Nghaernarfon.

Mae nifer o weithwyr hunangyflogedig wedi dweud eu bod yn dal i aros am arian sy'n ddyledus iddyn nhw.

Dywedodd dyn camera bod £13,000 yn ddyledus iddo a'i fod yn ceisio cael cyngor cyfreithiol.

Yn ddiweddar collodd y cwmni gytundeb i ddarlledu trafodaethau'r Cynulliad ym Mae Caerdydd.

.



HEFYD
Chwilio am brynwr i gwmni adnoddau
24 Mai 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific