British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 11 Mehefin 2010, 06:42 GMT 07:42 UK
Cais cynllunio i adfywio tref yn cael ei gyflwyno

Llun gan artist o'r hyn y gallai maes parcio'r orsaf edrych
Mae'r cynlluniau wedi cael eu cyflwyno yn swyddogol

Mae cais cynllunio i ddatblygu canol tref Blaenau Ffestiniog wedi cael ei gyflwyno'n swyddogol.

Bwriad y datblygiad ydi creu stryd siopa fywiog a chynnig profiad gwahanol, egnïol a neilltuol i ymwelwyr gyda hanes a threftadaeth yr ardal yn gefndir a chynsail i'r holl ddatblygiad.

Yn 2009 comisiynwyd cwmni ymchwil Miller gan Gyngor Gwynedd, y grŵp adfywio lleol Blaenau Ymlaen a Llywodraeth y Cynulliad i ddatblygu cynlluniau penodol ar gyfer y dref.

Llun artist o'r olygfa posib o Westy'r Queens
Y gobaith yw dechrau ar y gwaith yn fuan yn 2011

Y gobaith yw dechrau ar y gwaith yn fuan yn 2011.

Cafodd y cynllun £4.5 miliwn i adfywio'r dref y cymeradwyaeth ym mis Tachwedd 2009.

Bydd arddangosfa gyhoeddus yn dangos holl fanylion y cynlluniau yn yr hen ganolfan groeso y dref ar Fehefin 17, rhwng 2pm a 7pm.

Dywedodd Eifion Williams, sy'n rhan o grŵp Blaenau Ymlaen: "Rydym yn awyddus i ddatblygu'r cyfleoedd aruthrol sydd yn y dref gan seilio'r cynlluniau ar hanes a diwylliant arbennig Blaenau Ffestiniog."

Dywedodd Pryderi ap Rhisiart, Swyddog Adfywio Cyngor Gwynedd ar gyfer ardal Ffestiniog ac Eifionydd: "Mae hwn yn gynllun all wneud gwahaniaeth tymor hir i'r dref, gan roi Blaenau yn ôl ar y map.

"Mae nifer yn credu y byddai goleuo'r inclein yn ffordd o ddathlu hanes a threftadaeth yr ardal tra bo eraill yn credu y dylai gael ei adael a'i barchu fel ac y mae.

"Bydd hi'n ddifyr iawn clywed barn y trigolion."



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific