British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 11 Mehefin 2010, 07:04 GMT 08:04 UK
Agor coleg 'gwyrdd' 8m

Canolfan y Dechnoleg Amgen
Ym mis Ebrill fe wnaeth y ganolfan apl i godi 530,000

Mae coleg "gwyrdd" fydd yn dysgu cyrsiau amgylcheddol wedi agor ym Mhowys.

Dechreuodd gwaith ar brosiect £8 miliwn i greu Sefydliad Cymru ar gyfer Addysg Gynaliadwy yng Nghanolfan y Dechnoleg Amgen ym Machynlleth yn 2005.

Bydd myfyrwyr yn medru astudio cyrsiau ar bŵer y gwynt, gwresogi dŵr gan ddefnyddio technoleg solar a garddio organig.

Ym mis Ebrill fe wnaeth y ganolfan apelio i godi £530,000 i helpu i orffen y gwaith adeiladu.

Oherwydd ffrae gyfreithiol bu'n rhaid defnyddio arian wrth gefn i gwblhau'r gwaith gan fod y ganolfan wedi diddymu'r cwmni oedd yn gweithio ar y prosiect yn wreiddiol.

Llwyddwyd i godi'r arian o fewn wythnosau.

'Ansawdd uchel'

Dywedodd Gweinidog Amgylchedd Llywodraeth y Cynulliad, Jane Davidson, a agorodd y sefydliad: "Mae addysg a hyfforddi wrth galon ein hymdrechion i adeiladu dyfodol mwy cynaliadwy i Gymru.

"Dyna pam fod rôl Sefydliad Cymru ar gyfer Addysg Gynaliadwy wrth ddarparu hyfforddiant ac addysg o ansawdd uchel mor bwysig."

Dywedodd cyfarwyddwr y ganolfan Paul Allen: "Mae Canolfan y Dechnoleg Amgen yn ganolfan hyfforddiant o safon byd eang gyda 35 mlynedd o arbenigedd.

"Does dim sefydliad arall mewn gwell sefyllfa i ddarparu hyfforddiant i fynd i'r afael â newid hinsawdd, a does dim adeilad mwy addas i fod yn gartref ar gyfer yr hyfforddiant."

Mae'r sefydliad yn cynnwys neuadd ddarlithio 200 sedd a enwir ar ôl Graham Sheppard a gyfrannodd £650,000 tuag at y prosiect.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific