Dim cofeb hyd yn hyn i Harold Lowe yn Abermaw
|
Mae merch ysgol o Ddyffryn Ardudwy wedi dechrau ymgyrch i gofio Harold Lowe, un o arwyr y Titanic, yn nhref gyfagos Y Bermo. Pan sylweddolodd Maddie Matthews, 15 oed, nad oedd unrhyw gofeb swyddogol yn y dref i gofnodi mai yno y magwyd Harold Lowe, fe benderfynodd hi lansio ymgyrch i newid hynny. Ei gobaith yw y bydd cofeb yn ei lle erbyn canmlwyddiant boddi'r Titanic yn 2012. Yn y ffilm Titanic yn 1997, Ioan Gruffudd chwaraeodd ran Harold Lowe a achubodd bedwar o bobl o'r dŵr rhewllyd - digwyddiad oedd yn adlewyrchiad cywir o'r noson dyngedfennol ym mis Ebrill 1912. Wedi achub y pedwar person cyntaf, fe wnaeth achub nifer o bobl oddi ar un o'r cychod achub eraill oedd yn suddo. Gwnaeth yn siŵr bod pawb a achubwyd ganddo'n cyrraedd diogelwch llong gyfagos y Caparthia. Doedd Maddie Matthews heb glywed amdano tan iddi weld portread Ioan Gruffudd ohono yn y ffilm. 'Arwr'
Ioan Gruffudd actiodd Harold Lowe yn ffilm y Titanic yn 1997
|
"Mae'n arwr lleol, cenedlaethol a rhyngwladol," meddai. "Dylwn fod yn falch iawn ohono a dylai'r ysgolion lleol adrodd ei hanes yn amlach fel bod pawb yn yr ardal yn gwybod am ei ymddygiad ysbrydoledig. "Bu farw yn 1944 ac mae wedi ei gladdu yn Llandrillo-yn-Rhos ond does dim yn Bermo i'w gofio." Wedi i Harold Lowe ddychwelyd i Bermo, fe gafodd ei gyfarch gan 1,300 o bobl ac fe gyflwynwyd oriawr aur iddo am ei ymddygiad arwrol ond does dim unrhyw gofeb iddo yn y dref o hyd. Bwriad Maddie Matthews yw trefnu digwyddiad i godi pres yn Neuadd Goffa Dyffryn Ardudwy ac mae hi eisoes wedi sefydlu tudalen Facebook i hyrwyddo'r digwyddiad a'r ymgyrch. Mae ei hymdrechion wedi eu canmol gan Ymddiriedolaeth y Titanic, sef y mudiad sydd wedi ei sefydlu i warchod hanes ac enw'r RMS Titanic. Dywedodd sefydlydd yr ymddiriedolaeth, Howard Nelson: "Mae ei hymdrechion i'w canmol yn fawr ac fe wnawn bopeth o fewn ein gallu i'w chefnogi. "Gan fod bob un o'r bobl a oroesodd drychineb y Titanic bellach wedi'n gadael mae'n bwysig i ni eu cofio".
|