British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 9 Mehefin 2010, 19:53 GMT 20:53 UK
Canolfan addysg i gau

canolfan Bryntysilio
Mae hyd at 45 yn gallu aros yn y ganolfan

Mae canolfan addysg awyr agored yn Llangollen yn mynd i gau wrth i gyngor yn Lloegr geisio arbed arian.

Ddydd Mercher fe wnaeth Cabinet Cyngor Walsall gymeradwyo cynlluniau i gau Canolfan Breswyl Bryntysilio, ddwy filltir y tu allan i Langollen.

Ni phenderfynwyd pryd y bydd yn cau.

Dywedodd y Cynghorydd Anthony Harris, sydd â chyfrifoldeb am hamdden a diwylliant ar Gyngor Walsall: "Yn anffodus, dydyn ni ddim wedi denu ysgolion newydd i'r ganolfan.

"Mae'n costio tua £500,000 i drethdalwyr bob blwyddyn.

"Ac mae'n golygu bod pob plentyn sy'n dod i Fryntysilio yn cael cymhorthdal o £364 oddi wrth y cyngor."

Mae hyd at 45 o bobl yn gallu aros yn y ganolfan ac mae plant Walsall wedi bod yn mynd yno ers 40 mlynedd.

Ymddiriedolaeth Bryntysilio sy'n berchen ar yr adeilad ar safle 10 erw.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific