British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 9 Mehefin 2010, 13:07 GMT 14:07 UK
Maes hwylus i brifwyl yr Urdd 2011 yn Abertawe

Eisteddfod Felindre
Cafodd yr Eisteddfod Genedlaethol ei chynnal yn Felindre yn 2006

Llai nag wythnos ar ôl Eisteddfod yr Urdd yng Ngheredigion mae swyddogion y mudiad yn troi eu sylw at ardal Abertawe.

Daeth cadarnhad mai hen safle gwaith tin Felindre fydd lleoliad yr ŵyl yn 2011.

Cafodd yr Eisteddfod Genedlaethol ei chynnal ar yr un safle, sydd ger traffordd yr M4, yn 2006.

Dywedodd llefarydd ar ran yr Urdd fod yna fwy o darmac ar y safle erbyn hyn ar ôl i'r lleoliad gael ei ddefnyddio gan Rali Cymru.

"Byddwn yn cynllunio'r Maes o gwmpas hyn," meddai.

"Bydd y parcio a'r carafannau oll o fewn pellter hwylus."

Llwyddodd yr Urdd i ddenu dros 100,000 o bobl i Eisteddfod Ceredigion gafodd ei chynnal yn Llanerchaeron eleni.

Cyflwyniad

Ychwanegodd llefarydd fod yr ŵyl ar dir yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi bod yn "llwyddiant ysgubol".

Yn ystod yr wythnos fe wnaeth pobl ifanc Abertawe gymryd rhan mewn cyflwyniad blaengar a brwdfrydig i groesawu'r brifwyl.

Disgyblion Ysgol Bryn Tawe, Ysgol Gyfun Gwyr ac Ysgol Ystalyfera oedd wedi creu'r cyflwyniad.

Dyfrig Ellis, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod a Phennaeth Ysgol Lon Las yn Abertawe a Neil Rosser oedd wedi cyfansoddi'r caneuon i'r cyflwyniad.

''Dwi wedi mwynhau gweithio gyda'r criw talentog yma'n fawr iawn a hoffwn ddiolch i bob un ohonyn nhw am eu hymroddiad a'u gwaith caled dros y misoedd diwethaf," meddai Dyfrig Ellis.

"Mae gwirfoddolwyr eisoes wrthi'n codi arian ac ymwybyddiaeth yn lleol ac mae trigolion Abertawe yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu'r Eisteddfod i'r ardal flwyddyn nesaf.''

Ychwanegodd Aled Siôn, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod a'r Celfyddydau:

''Hoffwn ddiolch i Dyfrig Ellis a gweddill y tîm am eu cydweithrediad ac rydym yn edrych ymlaen at gydweithio efo nhw yn ogystal â phobl leol Abertawe dros y misoedd nesaf.

"Rydym hefyd yn cydweithio â Chyngor Abertawe sy'n gefnogol iawn i'r Eisteddfod.

"Mae Felindre ar gyrion y ddinas ac o fewn cyrraedd i'r M4.

"Mae lleoliad yr ŵyl mewn man hynod gyfleus a'n gobaith yw y bydd hynny'n cyfrannu tuag at Eisteddfod gofiadwy yn 2011.''




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific