British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 8 Mehefin 2010, 07:26 GMT 08:26 UK
Jill Evans yn Llywydd newydd Plaid Cymru

Jill Evans
Bydd Jill Evans yn cychwyn ei dyletswyddau ym mis Medi

Cafodd Jill Evans, Aelod Plaid Cymru yn Senedd Ewrop, ei hethol yn Llywydd y blaid yn ddiwrthwynebiad.

Fe fydd Ms Evans yn olynu Dafydd Iwan ym mis Medi.

Ms Evans ydi'r aelod sydd wedi gwasanaethu Plaid Cymru hiraf yn Ewrop.

Hi fydd y ddynes gyntaf i ddal y swydd.

Ers 2004 mae hi wedi bod yn is-lywydd y blaid a bydd yn cychwyn ar ei dyletswyddau newydd yng nghynhadledd y blaid yn Aberystwyth ym mis Medi.

"Hoffwn ddiolch i aelodau Plaid Cymru am roi eu hymddiriedaeth yndda i," meddai Ms Evans.

"Mae'r blaid wedi camu ymlaen yn sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf.

"Rydym yn cychwyn cyfnod cyffrous iawn i Blaid Cymru ac i Gymru.

O'r Rhondda

"Mae'r blaid yn cyrraedd lefel uwch o broffesiynoldeb ac mae'n bwysig bod y Llywydd yn cryfhau'r cysylltiad rhwng yr aelodau ar hyd a lled Cymru, yr arweinyddiaeth a'r staff.

"Mae'r Llywydd yn aelod pwysig o dîm Plaid Cymru a fy mwriad yw i adeiladu ar y gwaith gwych y mae Dafydd Iwan wedi ei wneud ac ysgogi ased pwysica'r blaid, yr aelodaeth."

Cafodd Ms Evans ei geni yn Y Rhondda yn 1959 ac mae hi'n dal i fyw yno.

Graddiodd o Brifysgol Aberystwyth cyn gweithio fel cynorthwy-ydd ymchwil yng nghyn Goleg Politechnig Cymru lle enillodd ei gradd M.Phil.

Gweithiodd i Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliad y Merched yng Nghymru am chwe blynedd cyn cymryd swydd fel Trefnydd Rhanbarthol Cymru ar gyfer CHILD - Rhwydwaith Cenedlaethol Cefnogaeth Anffrwythlondeb.

Bu'n gynghorydd am saith mlynedd ym Mwrdeistref Rhondda, Cyngor Morgannwg Ganol a Chyngor Rhondda Cynon Taf.

Rhwng 1994 a 1996 bu'n Gadeirydd y blaid ac yn 1999 cafodd ei hethol yn Aelod Seneddol Ewrop.

Ei phrif ddiddordebau gwleidyddol yw'r amgylchedd a materion rhyngwladol.



HEFYD
Jill Evans yn is-lywydd Plaid
07 Tach 03 |  Newyddion
Ewrop: Jill Evans yn ennill y ras
25 Hyd 03 |  Newyddion
Llwyddo am y trydydd tro
07 Meh 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific