Dywed arbenigwyr bod yfed dan oed yn cael effaith corfforol ar blant a phobl ifanc Cymru
|
Cafodd rhieni yng Nghymru eu rhybuddio na ddylai plant o dan 15 oed yfed alcohol. Wrth gyhoeddi canllawiau newydd dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Tony Jewell bod alcohol yn effeithio ar ddatblygiad corfforol plentyn. "Mae'r effaith ar iechyd plentyn yn fwy os ydyn nhw'n dechrau yfed yn ifanc," meddai Dr Jewell. Mae'r canllawiau newydd yno er mwyn gwarchod plant o sgil effeithiau alcohol, yn ôl Llywodraeth y Cynulliad. Mae'r adroddiad yn nodi canlyniadau gwaith ymchwil sy'n dweud bod 40% o blant 15 oed Cymru yn yfed alcohol yn wythnosol a bod 20% wedi bod yn feddw am y tro cyntaf yn 13 oed neu'n iau. Pregeth Dywedodd llefarydd y bydd ymgyrch yn codi ymwybyddiaeth o'r perygl a'r sgil effeithiau yn cychwyn ym mis Gorffennaf. Mae 'na gyfle ar stondin Llywodraeth y Cynulliad yn yr Eisteddfod yr Urdd i gasglu ymateb pobl ifanc i alcohol. Dywedodd y llywodraeth y bydd y farn hon yn cael ei defnyddio i ddatblygu ymgyrchoedd sy'n taclo camddefnydd alcohol ymhlith yr ifanc. Eglurodd Dr Jewell nad oedd yn bwriadu "pregethu" wrth bobl ifanc. "Yn syml dwi'n dweud y ffeithiau er mwyn helpu rhieni a phobl ifanc i wneud eu penderfyniad," meddai. "Mater i'r unigolion ydi a fydden nhw'n derbyn y cyngor ai peidio." Yn yr hir dymor mae yfed o oed cynnar yn cael effaith ar iechyd pobl ifanc, yn ôl arolwg. "Nid yn unig yr effaith amlwg ond gall cam-ddefnyddio alcohol gael effaith ar ymddygiad gwrthgymdeithasol, troseddau, beichiogrwydd digroeso neu gyffuriau," meddai Dr Jewell. Mae'n costio rhwng £70 a £85 miliwn y flwyddyn i daclo problemau iechyd o ganlyniad i alcohol yng Nghymru. "Os na fyddwn ni'n taclo'r problemau fe all y gost gynyddu." Cydweithio Dywedodd Gweinidog Iechyd Cymru Edwina Hart bod y mwyafrif o bŵer o ran deddfu yn y maes yn parhau yn San Steffan. "Fe fyddaf yn cydweithio gyda'r llywodraeth yno ac os nad oes modd datrys hyn yn fuan byddaf yn ceisio gweithredu yma ein hunain," meddai. Eglurodd Ysgrifennydd Cymru o Gymdeithas Feddygol y BMA, Richard Lewis, bod ymennydd plentyn 15 oed yn dal i ddatblygu ac y gall alcohol gael effaith tymor hir. "Oni bai y gallwn daclo yfed o dan oed fe fydd mwy o bobl yn y dyfodol yn diodde o anhwylderau yn ymwneud â'r iau yn y dyfodol. "Mae'n bwysig ein bod ni fel oedolion yn dangos esiampl i blant."
|