British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 2 Mehefin 2010, 16:12 GMT 17:12 UK
Manon yn ennill ei hail Fedal Ddrama yn yr Urdd

Manon Wyn Williams
Dyma'r ail waith i Manon Wyn Williams ennill y wobr

Manon Wyn Williams enillodd Fedal Ddrama Eisteddfod yr Urdd Ceredigion 2010.

O Rosmeirch, Ynys Môn, mae Manon yn dod ac enillodd yr un gystadleuaeth yng Nghaerfyrddin yn 2007.

Y dasg eleni oedd cyfansoddi drama lwyfan fyddai'n para rhwng 40 a 60 munud ac roedd y testun yn agored.

Beirniaid y gystadleuaeth eleni oedd Mari Rhian Owen a Paul Griffiths ddywedodd fod y ddrama fuddugol, Disgwyl, yn ddrama "aeddfed a chywrain".

"Dramodydd sensitif," medden nhw, ysgrifennodd yr ymson am wraig mewn cartref hen bobl.

Ysgrifennu creadigol

Yn ail yn y gystadleuaeth roedd Guto Dafydd o Aelod Unigol o Gylch Llŷn, Eryri, ac yn drydydd roedd Ffion Evans o Ysgol Gyfun Glantaf, Caerdydd.

Fe aeth Manon i Ysgol y Graig, Llangefni, ac Ysgol Gyfun Llangefni cyn cael gradd anrhydedd dosbarth cyntaf yn y Gymraeg a Theatr a'r Cyfryngau ym Mhrifysgol Bangor yn 2008.

Ar hyn o bryd mae'n dilyn cwrs Meistr yn y Gymraeg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Bangor.

Mae newydd dderbyn ysgoloriaeth fydd yn golygu gwneud gradd doethuriaeth mewn sgriptio ym Mhrifysgol Bangor o Hydref ymlaen.

Ac mae wedi actio gyda chwmnïau'r Fran Wen a Sianco.

Ysgoloriaeth

Ers blynyddoedd mae wedi cystadlu'n aml yn Eisteddfod yr Urdd gydag Aelwyd yr Ynys.

Yn 2007, yn ogystal ag ennill Y Fedal Ddrama, fe gipiodd Ysgoloriaeth Bryn Terfel Urdd Gobaith Cymru.

Ers dwy flynedd mae wedi bod yn dysgu drama yn Theatr Fach Llangefni.

Cafodd y fedal ei rhoi gan Ysgol DyffrynTeifi, Llandysul, a Meistres y Ddefod oedd Catrin Mai Davies.

Coleg Prifysgol y Drindod noddodd y seremoni.



HEFYD
4,000 i Manon
23 Medi 07 |  Newyddion
Y Fedal Ddrama i Manon
30 Mai 07 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific