British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 2 Mehefin 2010, 05:43 GMT 06:43 UK
Cynllun adfywio canol tref yn cael dechrau llwyddiannus

hen adeilad mudiad cydweithredol y ffermwyr
Mae cyfranddaliadau yn cael eu gwerthu i brynu'r safle

Dywedodd cefnogwr prosiect i adfywio canol tref Aberteifi eu bod wedi cael wythnos lwyddiannus ers lansio'r cynllun.

Mae'r grŵp cymunedol a gafodd ei sefydlu'r wythnos diwethaf yn awyddus i godi digon o arian er mwyn adfywio'r dref.

Y nod yw codi £450,000 er mwyn prynu safle datblygu Pwllhai.

Fe fydd cyfarfod cyhoeddus yn y dref nos Fawrth i egluro mwy am y cynllun.

Bydd cyfle i bobl gael lleisio eu barn ar yr adeilad a chael atebion i'w cwestiynau.

Mae'r cwmni cydweithredol yn gobeithio gwerthu cyfranddaliadau gwerth £500 yr un.

Y bwriad yw datblygu tir o gwmpas yr adeilad i greu lle parcio rhad am hyd at 100 o geir er mwyn rhoi hwb i siopau'r stryd fawr.

A'r nod yw datblygu siop gymunedol ar y safle i hybu cynnyrch lleol.

Fe fydd y cyfarfod ar safle Pwllhai am7pm.



HEFYD
Cynllun adfywio canol tref
02 Meh 10 |  Newyddion
Pryder am ddyfodol cynllun
16 Chwef 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific