British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sul, 30 Mai 2010, 09:04 GMT 10:04 UK
Galw am eglurhad dros wrthod addysg Gymraeg Caerdydd

Ysgol Treganna
Does 'na ddim digon o le i ddisgyblion yn yr ysgol

Mae Pwyllgor Gwaith Plaid Cymru wedi galw ar y Prif Weinidog Carwyn Jones i wneud datganiad llawn yn y Cynulliad Cenedlaethol ynglŷn â'i benderfyniad i wrthod cynlluniau i ad-drefnu ysgolion yng Ngorllewin Caerdydd.

Mae'r pwyllgor yn awyddus i Lywodraeth Cymru gydweithio efo Cyngor Sir Caerdydd i ymateb yn effeithiol i'r galw cynyddol am addysg Gymraeg.

Yn gynharach yn yr wythnos fe wnaeth Mr Jones wrthod cynigion cyngor i ehangu addysg Gymraeg yng ngorllewin y ddinas.

Bwriad y cyngor oedd cau Ysgol Gynradd Lansdowne sy'n ysgol cyfrwng Saesneg a symud Ysgol Gynradd Gymraeg Treganna i'r safle.

Roedd Mr Jones wedi dweud y byddai'r ad-drefnu yn "andwyol i safon darpariaeth addysg Saesneg".

'Sarhad'

"Rwy'n derbyn bod 'na ddadleuon cryf ar gyfer ad-drefnu addysg gynradd yn ardal Treganna," meddai wrth gyhoeddi'r penderfyniad.

"Rwy'n gobeithio y bydd y cyngor yn ailystyried ac y bydd gwell cyfatebiaeth rhwng yr angen a'r galw am lefydd o ran addysg Gymraeg a Saesneg yn yr ardal."

Ond fe wnaeth Plaid Cymru ddisgrifio'r penderfyniad fel "sarhad llwyr".

Roedd y cyngor wedi cyflwyno'r cynllun yma gan fod 'na lefydd gwag yn ysgolion Saesneg yr ardal ond mwy o alw am addysg Gymraeg a llefydd yn yr ysgolion hynny'n brin.

Wedi cyfarfod o'r pwyllgor ddydd Sadwrn fe wnaeth Plaid Cymru benderfynu nad oedd ganddyn nhw hyder yn y penderfyniad wnaeth Mr Jones.

Maen nhw'n awyddus bod Mr Jones yn egluro sut mae'r penderfyniad yn cydymffurfio â'r polisi cenedlaethol.

Dywedodd y pwyllgor eu bod yn credu y gall y penderfynid yma gael effaith ar y gwaith y mae holl awdurdodau lleol Cymru yn ei wneud yng nghyd-destun gormod o lefydd gwag ac ad-drefnu ysgolion.



HEFYD
Beirniadu atal ad-drefnu ysgolion
29 Mai 10 |  Newyddion
Na i ehangu addysg Gymraeg
27 Mai 10 |  Newyddion
Ad-drefnu addysg: 'Llusgo traed'
02 Maw 10 |  Newyddion
Cyngor o blaid cau ysgol
30 Ebr 09 |  Newyddion
Cyngor yn argymell cau ysgol
27 Ebr 09 |  Newyddion
Caerdydd: 17 o ysgolion i gau?
06 Ebr 06 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific