British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 28 Mai 2010, 20:46 GMT 21:46 UK
Y Prifardd Iwan Llwyd wedi marw

Iwan Llwyd yn Eisteddfod Y Bala yn 2009
Roedd Iwan Llwyd yn un o feirdd amlyca Cymru

Bu farw'r Prifardd Iwan Llwyd yn 52 oed.

Cyhoeddodd sawl cyfrol o farddoniaeth, roedd yn awdur ar gyfer y teledu a'r theatr ac roedd hefyd yn gerddor.

Enillodd Goron Eisteddfod Genedlaethol Cwm Rhymni yn 1990 am ei gasgliad o gerddi, Gwreichion.

Eleni roedd yn feirniad ar gystadleuaeth y Goron ym Mlaenau Gwent a Blaenau'r Cymoedd.

Yn ogystal â barddoni roedd yn aelod o'r bandiau Geraint Lövgreen a'r Enw Da a Steve Eaves a'i Driawd fel gitarydd.

Roedd yn byw ym Mangor a chafwyd hyd i'w gorff yn ei gartref yn y ddinas bnawn Gwener.

Cafodd ei eni yng Ngharno, Powys cyn symud i Dal-y-bont, Dyffryn Conwy ac yna i Fangor yn 10 oed.

Mynychodd Ysgol Gynradd Tal-y-bont, Ysgol Gymraeg Sant Paul, Bangor ac Ysgol Friars, Bangor cyn astudio yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth.

Derbyniodd radd MA o Aberystwyth am astudiaeth ar farddoniaeth ganoloesol.

DETHOLIAD O GYFROLAU IWAN LLWYD
Sonedau Pnawn Sadwrn
Dechrau Bwrw
Dan Anasthetig
Llwybro â Llafur at Lynllifon
Dan fy Ngwynt
Dan Ddylanwad - Cerddi 'Mericia, Canada a Chymru
Owain Glyn Dŵr 1400-2000 - gyda Gillan Clarke
Be 'Di Blwyddyn Rhwng Ffrindia?: Cerddi 1990-99
Mae'n Gêm o ddau Fileniwm (gyda Myrddin ap Dafydd)
Hanner Cant
Rhyw Deid yn Dod Miwn
Sonedau Pnawn Sul

Wedi gadael y coleg bu'n gweithio i gwmni cysylltiadau cyhoeddus cyn mynd yn hunangyflogedig.

Roedd yn aml iawn yn ymweld â chymdeithasau, ysgolion a sefydliadau i ddarllen ei waith ac yn ogystal â pherfformio yng Nghymru roedd yn aml yn teithio dramor i ddarllen ei waith.

Fe ddechreuodd farddoni yn fachgen ysgol.

Cyhoeddodd nifer o gyfrolau o farddoniaeth.

Yn 1997 enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn gyda'i gyfrol 'Dan Ddylanwad'.

Roedd ei gyfrol 'Be 'Di Blwyddyn Rhwng Ffrindia?: Cerddi 1990-99' ar Restr Hir Llyfr y Flwyddyn yn 2004 ac roedd ei gyfrol, 'Hanner Cant', ar Restr Hir Llyfr y Flwyddyn 2008.

Cyhoeddodd ei gyfrol ddiweddara, Sonedau Pnawn Sul. y llynedd gan ddilyn ei gyfrol o 1983, Sonedau Pnawn Sadwrn.

Fe gyfrannodd hefyd at gyfrolau gyda beirdd eraill fel Myrddin ap Dafydd, Twm Morys, Meirion MacIntyre Huws ac Ifor ap Glyn.

Ymhlith y cyfrolau y mae Syched am Sycharth - Cerddi a Chwedlau Taith Glyndŵr a Bol a Chyfri Banc.

Roedd hefyd wedi cyfrannu geiriau i lyfrau o ddarluniau fel Môr a Mynydd - Eryri a'r Glannau o'r Awyr, a Hon: Ynys y Galon - Delweddau o Ynys Gwales yng ngwaith Iwan Bala.

Roedd yn aelod o dîm Talwrn y Beirdd Penrhosgarnedd.

Roedd hefyd yn golofnydd rheolaidd yn Barddas a Barn.

Mae'n gadael gwraig a merch.

Roedd yn frawd i'r actor Llion Williams.


Os am roi teyrnged anfonwch neges e-bost ar newyddionarlein@bbc.co.uk ac fe fyddwn yn eu cyhoeddi.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific