Roedd y gemau olaf ar y maes yn 2008
|
Mae cais wedi ei wneud i Lywodraeth y Cynulliad i alw i mewn cynllun dadleuol i godi 355 o dai ar hen faes rygbi Parc Y Strade yn Llanelli. Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth y byddai penderfyniad i alw i mewn ai peidio yn cael ei wneud "yn fuan". Mae Cwmni Taylor Wimpey wedi cael caniatad amlinellol i godi tai ar y safle. Nawr maen nhw wedi cyflwyno cynllun mwy manwl, sy'n cynnwys manylion carthffosiaeth a mynediad, i gael ei gymeradwyo. Roedd swyddogion cynllunio Sir Gaerfyrddin wedi awgrymu y dylai'r cais gael ei gymeradwyo gan y cyngor ddydd Iau. Ond fe ohirwyd y drafodaeth tan y bydd 'na gyfle i ymweld â'r maes ar Fehefin 24. 'Pryderus' Mae rhai trigolion yn gwrthwynebu'r cais. Maen nhw'n bryderus am lifogydd, problemau carffosiaeth ac mai ychydig iawn o amser sydd wedi ei roi i ystyried y cais newydd. Cyn y cyfarfod roedd y cynghorydd lleol, Siân Caiach, wedi dweud y byddai'n gofyn i'r cais gael ei ohirio. Fe wnaeth y Scarlets a Llanelli chwarae eu gemau olaf yno yn 2008 cyn i'r tir gael ei werthu a symud i Barc y Scarlets. Yn wreiddiol roedd y datblygwyr eisiau codi 450 o dai ar y safle. Cafodd sawl ymchwiliad cyhoeddus eu cynnal oherwydd gwrthwynebiadau lleol. Fe wnaeth Llywodraeth y Cynulliad alw'r cynlluniau i mewn cyn i broblemau pellach godi gyda defnydd caeau ymarfer Parc y Strade ar gyfer codi tai.
|