British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 28 Mai 2010, 10:08 GMT 11:08 UK
Atal hiliaeth: Cerdd fuddugol

Y stadiwm o'r awyr.
Casglodd Huw ei wobr yn Stadiwm y Mileniwm.

Yn anffodus, dyw Cymru ddim yn cystadlu yn rowndiau terfynol Cwpan Pêl-droed y Byd yn Ne Affrica'r haf yma.

Ond mae Huw Davies o Ysgol Gynradd Brynconin, Llandysilio ger Arberth, ymhlith enillwyr cenedlaethol mewn cystadleuaeth sy'n targedu hiliaeth ym myd y bêl gron.

Mudiad Rhowch y Cerdyn Coch i Hiliaeth drefnodd y gystadleuaeth.

Fe deithiodd i Stadiwm y Mileniwm i dderbyn ei wobr.

"Rwy'n hapus iawn mod i wedi gwneud cystal yn y gystadleuaeth ac roedd hi'n gyffrous ymweld â'r stadiwm hefyd."

Enillwyr eraill

Ymhlith yr enillwyr eraill roedd Ben Phillips, Ysgol Bro Gwaun, James Baynes, Ysgol Maes Dyfan, Sian Ceri Thorpe, Ysgol Y Faenol a Laura Satterly, Ysgol Pencae.

Gan fod hiliaeth yn rhan amlwg yn hanes De Affrica mae cerdd Huw yn amserol iawn ac mae'r ysgol yn ceisio achub ar y cyfle bod y rowndiau terfynol ar fin dechrau er mwyn dysgu mwy am yr holl wledydd fydd yn cystadlu.

"Ry'n ni'n bles iawn bod Huw wedi ennill ac ry'n ni'n falch iawn ohono," meddai pennaeth yr ysgol, Elin Evans.

"Ac ry'n ni wedi bod yn edrych ar yr holl wledydd sy'n cystadlu.

"Fe fyddwn ni'n cael ciniawau traddodiadol arbennig o ambell un o'r gwledydd yn ystod y mis nesaf."

Gan nad yw Cymru wedi llwyddo i gyrraedd y 32 olaf pwy fydd yn ennill y cwpan?

Yn ôl dau o gyd-ddisgyblion Huw, timau o Dde America fydd yn fuddugol.

Danny Jordan,Nelson Mandela a Jerome Valcke yn edrych ymlaen at effaith bositif y gystadleuaeth.
A fydd y ffaith bod Cwpan y Byd yn Ne Affrica yn lleihau problemau hiliol y wlad ?

Dywedodd Iwan Llewelyn mai Ariannin fyddai'n ennill gan "mai Messi yw chwaraewr gorau'r byd".

Yn y cyfamser, dywedodd Aled Huws y byddai "Brasil yn ennill eto".




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific