British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 28 Mai 2010, 07:56 GMT 08:56 UK
Codi tl am ocsigen ar awyrennau yn 'warthus'

cyfarpar ocsigen
Mae Sefydliad yr Ysgyfaint yn anfodlon bod rhai cwmnau'n codi tl am ocsigen.

Mae cleifion sydd angen ocsigen ychwanegol er mwyn anadlu yn dweud bod rhai cwmnïau awyrennau yn codi ffioedd annheg arnyn nhw i deithio.

Mae rhai teithwyr yn gorfod talu cannoedd o bunnau yn ychwanegol i hedfan.

Yng Nghymru mae tua un o bump o bobl yn dioddef o afiechyd ar yr ysgyfaint gyda chyflwr nifer o'r rheiny'n ddifrifol, sy'n golygu eu bod yn dibynnu ar gyflenwad ocsigen ychwanegol i anadlu.

Tra bod rhai cwmnïau awyrennau yn caniatáu i deithwyr i ddod â chyflenwad eu hunain ar yr awyren, mae rhai yn gwrthod.

Yn hytrach, mae'r cwmnïau yn medru darparu'r ocsigen - ond, yn ôl arolwg diweddar, mae'n gallu costio rhwng £50 a £500 am bob siwrnai.

'Annheg'

Yn ôl Sefydliad yr Ysgyfaint, mae hynny'n gwbl annheg - gan nodi nad oes hawl gan y cwmnïau awyrennau i godi unrhyw dâl ychwanegol ar bobl sy'n defnyddio cadair olwyn.

Mae'r elusen yn galw ar Lywodraeth Prydain i ddiddymu'r taliadau.

Ym mhentref Coelbren yng Nghwm Tawe y mae Margaret Barnard yn byw ac mae hi'n dioddef o'r cyflwr.

Nid y ffaith bod angen ocsigen ychwanegol arni sy'n cyfyngu ei hawydd i deithio ond yn hytrach yr holl anghysondeb sy'n bodoli rhwng polisïau'r gwahanol gwmnïau awyrennau.

Mae tri chwmni sy'n defnyddio Maes Awyr Caerdydd yn codi tâl am gyflenwi ocsigen.

Awyren BMI Baby.
100 fesul siwrnai yw'r tl a godir gan BMI Baby o Gaerdydd.

£90 punt am bob taith yw'r pris am hedfan gydag Aer Arann gan fod yn rhaid i'r cwmni "dalu am ail-lenwi'r silindrau ocsigen".

Mae Thomas Cook a BMI Baby yn codi £100 am y gwasanaeth gan nad ydyn nhw'n fodlon i deithwyr ddod â'u silindrau eu hunain am "resymau diogelwch".

Dywed Margaret Barnard bod y sefyllfa yn "warthus" a'i bod hi bellach yn gwrthod teithio gydag unrhyw gwmni sy'n codi tâl ychwanegol arni yn y dyfodol.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific